Hypnerotomachia Poliphili

Oddi ar Wicipedia
Hypnerotomachia Poliphili
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurFrancesco Colonna Edit this on Wikidata
CyhoeddwrAldus Manutius, Gwasg Aldine Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
IaithEidaleg, Lladin Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1499 Edit this on Wikidata
Prif bwncalegori Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Stori alegorïaidd o'r traddodiad dyneiddiol y Dadeni yw Hypnerotomachia Poliphili ("Breuddwyd Poliphilo am frwydr cariad") a argraffwyd yn Fenis gan Aldus Manutius ym mis Rhagfyr 1499. Mae'r llyfr, sy'n enghraifft enwog o incwnabwlwm (llyfr printiedig cynnar), wedi cael ei ganmol yn aml am harddwch ei ddyluniad, a'r modd y mae'n cyfuno teip symudol gyda'i ddarluniau torlun pren niferus.

Mae'r testun, a ysgrifennwyd mewn ffurf anarferol o Eidaleg sy'n llawn geiriau sy'n deillio o Ladin a Groeg, wedi'i briodoli i awduron amrywiol. Fodd bynnag, mae llythrennau cyntaf y 38 pennod yn ffurfio acrostig "POLIAM FRATER FRANCISCVS COLVMNA PERAMAVI" ("Mae'r Brawd Francisco Colonna wedi dyfalbarhau â charu Polia"), sy'n dangos mai Francesco Colonna, mynach Dominicaidd, oedd yr awdur.

Mae'r stori'n alegori ddirgel lle mae'r prif gymeriad Poliphilo yn dilyn ei gariad, Polia, trwy dirwedd freuddwydiol. Mae'n dilyn llawer o gonfensiynau arferol serch llys.

Y Plot[golygu | golygu cod]

Mae Poliphilo, sydd wedi cael ei wrthod gan ei gariad, Polia, yn treulio noson aflonydd yn llawn breuddwydion. Mae'n cael ei hun mewn coedwig wyllt, lle mae'n mynd ar goll, yn dod ar draws dreigiau, bleiddiaid, morwynion a llawer o ffurfiau pensaernïol hynod. Mae'n dianc, ac yn syrthio i gysgu unwaith eto.

Mewn breuddwyd o fewn breuddwyd mae nymffau yn mynd ag ef i gwrdd â Eleuterylida, eu brenhines, ac yno gofynnir iddo ddatgan ei gariad at Polia. Mae dwy nymff yn gofyn iddo ddewis rhwng tri llidiart. Mae'n dewis y trydydd, ac yno mae'n darganfod ei gariad. Fe'u cymerir gan nymffau eraill i deml er mwyn iddynt gael eu dyweddïo i'w gilydd. Ar y ffordd maen nhw'n dod ar draws pum gorymdaith orfoleddus i ddathlu eu huniad. Fe'u cludir i ynys Cythera mewn cwch wedi'i lywio gan Ciwpid. Ar yr ynys maen nhw'n gweld gorymdaith orfoleddus arall. Torrir ar draws yr adroddiant, ac mae Polia yn disgrifio cariad Poliphilo tuag ati o'i safbwynt ei hun.

Mae Poliphilo yn ailafael yn ei adroddiant. Mae Polia yn gwrthod ei garwriaeth, ond mae Ciwpid yn ymddangos iddi mewn gweledigaeth ac yn ei gorfodi i ddychwelyd a chusanu Poliphilo, sydd wedi llewygu wrth ei thraed. Mae ei chusan yn ei adfywio. Mae Gwener yn bendithio eu cariad, ac mae'r pâr yn cael eu huno o'r diwedd. A Poliphilo ar fin cymryd Polia yn ei freichiau, mae hi'n diflannu ac mae ef yn deffro.

Dwy dudalen o Hypnerotomachia sy'n dangos gorymdaith orfoleddus

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]