Ysgol Gyfun Ystalyfera
| Ysgol Gyfun Ystalyfera | |
|---|---|
![]() |
|
| Arwyddair | Dysgu Gorau Dysgu Byw |
| Sefydlwyd | 1969 |
| Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
| Cyfrwng iaith | Cymraeg |
| Pennaeth | Mr Matthew H. T. Evans |
| Cadeirydd | Cyng Eirion Richards |
| Lleoliad | Glan yr Afon, Ystalyfera, Castell-nedd Port Talbot, Cymru, SA9 2JJ |
| AALl | Castell-nedd Port Talbot |
| Disgyblion | tua 1050 |
| Rhyw | Cyd-addysgol |
| Oedrannau | 11–18 |
| Llysoedd | Gwenllian, Hywel, Llywelyn |
| Lliwiau | Glas a gwyrdd (gwyrdd a du ar gyfer y chweched ddosbarth) |
| Gwefan | ysgolgyfunystalyfera.co.uk |
Ysgol uwchradd gyfun cyfrwng Cymraeg yw Ysgol Gyfun Ystalyfera. Fe'i lleolir wrth ymyl afon Twrch yn Ystalyfera, tua 18 milltir i'r gogledd o Abertawe. Mae'r ysgol yn adnabyddus am ei llwyddiannau ym meysydd y celfyddydau, chwaraeon, yn ogystal â'r academaidd. Ar hyn o bryd, Mr. David Williams yw'r prifathro dros dro yn dilyn ymddiswyddiad annisgwyl Mr. Eurig Davies.
Hanes [golygu]
Sefydlwyd yr ysgol ym 1969, tra'n rhannu safle a staff ag Ysgol Sir Ystalyfera, a sefydlwyd yn 1896, yn ystod ei blynyddoedd cynnar. Roedd dalgylch yr ysgol yn ymestyn o Faesteg yn y de-ddwyrain i Benrhyn Gŵyr yn y de cyn i ysgolion Llanhari ac Ysgol Gyfun Gŵyr agor. Tan ddiwedd y 1990au, bu Ysgolion Ystalyfera a Gŵyr yn rhannu chweched dosbarth ar safle Ystalyfera. Enw'r chweched dosbarth yw 'Canolfan Gwenallt', er clod i'r prifardd D. Gwenallt Jones (1899-1968), a fynychodd yr Ysgol Sir yno.
Mae dalgylch presennol yr ysgol yn rhannu ffiniau ag awdurdod unedol Castell-Nedd Port Talbot, gyda nifer o ddisbylion o Aber-crâf ac Ystradgynlais yn ne-orllewin sir Powys hefyd yn mynychu'r ysgol.
Fel ysgol benodedig Gymraeg, drwy gyfrwng y Gymraeg y mae'r mwyafrif o'r gwersi'n cael eu cynnal, er bod modd dilyn rhai pynciau drwy gyfrwng y Saesneg.
Cyn-ddisgyblion o nôd [golygu]
- Alun Cairns AC - Aelod Cynulliad Ceidwadol
- Huw Chiswell - cerddor, cantor, ac actor
- D. J. 'Gwenallt' Jones - prifardd a darlithydd (Ysgol Sir Ystalyfera)
- Derwyn Jones - cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol
- Lyn Jones - cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol a chyn-hyfforddwr y Gweilch
- Euros Lyn - cyfarwyddwr teledu
- Siân Lloyd - darlledwraig
- Y Parchedicusaf Barry Morgan - Archesgob Cymru (Ysgol Sir Ystalyfera)
- Garry Owen - darlledwr
- Rhodri Owen - darlledwr
- Rhodri Steffan - actor
- Ben Davies - chwaraewr pel droed
