Garry Owen
| Garry Owen | |
|---|---|
| Ganwyd | |
| Galwedigaeth | Newyddiadurwr, cyflwynydd teledu a radio |
Newyddiadurwr a chyflwynydd teledu a radio Cymreig yw Garry Owen. Ef yw prif angor y rhaglen Newyddion ar S4C a chyflwynydd Post Cyntaf BBC Radio Cymru.
Ganwyd Owen ym Mhontarddulais, mynychodd Ysgol Pontarddulais ac Ysgol Gyfun Ystalyfera, aeth ymlaen i astudio'r Gyfraith yn Mhrifysgol Aberystwyth. Wedi graddio, symudodd i Lanelli i weithio gyda chwmni cyfreithwyr cyn gweithio yn cyflwyno opera, roc ceisiadau a newyddion ar radio Sain Abertawe am wyth mlynedd. Ymunodd â BBC Radio Cymru fel gohebydd yn Abertawe.[1]
Cafodd Owen ei urddo i wisg wen gorsedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002.[2]
Owen oedd cyflwynydd yr apêl elusenol cyntaf i gael ei ddarlledu yn y Gymraeg ar y teledu, pan gyflwynodd apêl argyfwng Darfur a Chad ym mis Mai 2007.[3]
Erbyn hyn mae'n byw yn yr Hendy.[1]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ 1.0 1.1 Cyflwynwyr: Garry Owen. BBC Radio Cymru.
- ↑ Yr Orsedd i urddo Archesgob Cymru. BBC (26 Mehefin 2002).
- ↑ Apêl argyfwng Darfur a Chad. S4C (24 Mai 2007).