Ysgol Gyfun Llanhari

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ysgol Gyfun Llanhari
Arwyddair Gorau Gwaith Gwasanaeth
Sefydlwyd 1974
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mr Meirion Stephens
Dirprwy Bennaeth Mrs R Phillips
Cadeirydd Mrs Pauline Harrison
Lleoliad Llanhari, Pontyclun, Rhondda Cynon Taf, Cymru, CF72 9XE
AALl Rhondda Cynon Taf
Disgyblion 886
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Gwefan http://www.llanhari.com/


Ysgol uwchradd gyfun cyfrwng Cymraeg yn Llanhari, Rhondda Cynon Taf yw Ysgol Gyfun Llanhari, sydd yn gwasanaethu disgyblion o rhwng 11 ac 18 oed. Sefydlwyd yr ysgol yn 1974, yn dilyn agoriad Ysgol Gyfun Rhydfelen rhai blynyddoedd ynghynt. Roedd yr ysgol mor boblogaidd yr oedd yn fuan wedi ei gor-tanysgrifo ac felly agorwyd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd yn 1978 er mwyn cymryd disgyblion o Dde Morgannwg.

Gwybodaeth Bellach [golygu]

Mae gan yr ysgol lefydd ar gyfer hyd at tua 1000 o ddisgyblion, mae ganddi tua 80 o athrawon gyda chymwysterau agored.

Daw'r disgyblion o ysgolion cynradd Meisgyn, Bro Ogwr ac Dolau ym mlwyddyn 7 y system addysgol.

Mae 3 cae rygbi/pêl-droed, cae hoci, iard pêl-droed/pêl fasged a iard wedi ei tharmacio ar dir yr ysgol. Mae gan yr ysgol un o'r campysau mwyaf yn ne Cymru.

Gweinyddiaeth [golygu]

  • Pennaeth yr Ysgol: Mr Meirion Stephens
  • Dirprwyon: Mrs R Phillips
  • Dirprwyon pellach: Mrs A Davies, Mr G Howells a Ms A Pugh-Jones
Apple-book.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato