Ysgol Gyfun Gŵyr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ysgol Gyfun Gŵyr
Gwyrlogo160x90.jpg
Logo'r ysgol
Arwyddair Gorau byw, cyd-fyw
Sefydlwyd 1984
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Dwyieithog, Cymraeg a Saesneg
Pennaeth Mrs Katherine Davies
Cadeirydd Parch. John Walters
Lleoliad Stryd Talbot, Abertawe, Sir Abertawe, Cymru, SA4 3DB
AALl Cyngor Dinas Abertawe
Disgyblion 644[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Llysoedd Branwen, Caradog, Dylan, Llŷr, Nudd
Gwefan http://www.yggwyr.swansea.sch.uk/

Ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Nhre-gŵyr, sir Abertawe, De Cymru, yw Ysgol Gyfun Gŵyr.

Cynnwys

[golygu] Hanes

Agorwyd yr ysgol ym mis Medi 1984. Cyn hynny, bu'n rhaid i blant Abertawe deithio i Ysgol Gyfun Ystalyfera er mwyn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Y Pennaeth cyntaf oedd Mr. Vivian Thomas, ac fe'i olynwyd gan Dr T. Neville Daniel. Ar ymddeoliad Dr. Daniel yn 2002, penodwyd Mrs. Katherine J. Davies yn Bennaeth ar yr ysgol.

Bellach y mae'n un o ddwy ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Ninas a Sir Abertawe. Sefydlwyd ei chwaer ysgol, sef Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, yn 2003 er mwyn ymateb i'r cynnydd aruthrol a fu yn y sector cyfrwng Gymraeg. Yr ysgolion cynradd sy'n bwydo Ysgol Gyfun Gŵyr yw Ysgol Gymraeg Bryniago, Ysgol Gymraeg Pontybrenin, Ysgol y Login Fach, Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw, ac Ysgol Gynradd Bryn-y-mor.

Ym mis Mawrth 2009, cyhoeddodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru y bydd gan yr ysgol Ganolfan Addysgu Arbenigol er mwyn diwallu anghenion arbennig disgyblion rhwng 11 a 18 oed. Agorwyd hon ym mis Medi 2009.[2]

Ym mis Mai 2011, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad data a ddangosai sut y gwnaeth disgyblion yr ysgol yn eu arholiadau TGAU o'u gymharu â'r targedau a osodwyd i'r disgyblion pan oeddent yn 11 oed. Daeth yr ysgol yn ail yng Nghymru gyda gwerth atodol o 17.48.[3]

[golygu] Canlyniadau Arolwg Estyn 2011

Yn Adroddiad Arolygaeth Estyn ym mis Ionawr 2011, dywedwyd bod yr ysgol yn "rhagorol" gyda disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4 yn cyflawni'n eithriadol.[1]

[golygu] Cyn-ddisgyblion nodedig

[golygu] Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Adroddiad Arolygaeth Estyn Ionawr 2011 ar wefan yr ysgol Adalwyd ar 02-04-2011
  2. [1] Gwefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 02-04-20011
  3. Secondary school performance in Wales revealed Ciaran Jenkins. Gwefan BBC News. 20-05-2011. Adalwyd ar 28-06-2001
Apple-book.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill