Y Wal Goch

Oddi ar Wicipedia
Y Wal Goch
Enghraifft o'r canlynolsupporters' group Edit this on Wikidata
Patchyn cefnogwyr Y Wal Goch - y math o batchyn caiff ei winio ar het fwced eiconig y cefnogwyr
Aelodau'r Wal Goch - Criw 'Chwadans ar Daith', mewn gêm ryngwladol
Ffans Y Wal Goch Cymru, gêm yn Tirana yn erbyn Albania, Tachwedd 2018

Y Wal Goch yw enw a brand ar gyfer cefnogwyr tîm pêl-droed Cymru. Mae'r enw'n cael ei arddel gan gefnogwyr y tîm, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a'r cyfryngau. Caiff ei harddel gan y cefnogwyr eu hunain, a'r cyfryngau ac fel rhan o frandio Cymdeithas Bêl-droed Cymru.[1] Y term yn Saesneg yw The Red Wall.[2]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Daeth yr enw Y Wal Goch i fodolaeth tua adeg pencampwraeth Euro 2016 yn Ffrainc. Ymysg nodweddion y Wal Goch mae cefnogwyr yn gwisgo crysau replica coch tîm Cymru, gwisgo hetiau bwced yn lifrau Cymru, cerddoriaeth gan fand The Barry Hornes , canu Hen Wlad fy Nhadau ag arddeliad a defnydd macaronig o'r iaith Gymraeg wrth hyrwyddo'r tîm cenedlaethol.[3] Mae'r Wal Goch a'r diwylliant o ddilyn tîm pêl-droed Cymru yn ôl sawl ffan wedi bod yn addysg a chyflwyniad i ddiwylliant iaith Gymraeg a hanes Cymru. Mewn erthygl ar wefan Croeso Cymru esboniodd un ffan, Fez, "Un o agweddau mwyaf boddhaus y profiad o fod yn ddilynwr fu cymaint o ganeuon Cymraeg sydd bellach yn cael eu canu yn y stadiwm, a’r cefnogwyr yn cofleidio balchder cenedlaethol a hunaniaeth ddiwylliannol. 'Mae tîm pêl-droed Cymru yn ffordd i mewn i ddysgu am hanes a diwylliant Cymru."[3]

Aelodau[golygu | golygu cod]

Mae gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru aelodaeth 'Y Wal Goch' am rai blynyddoedd sy'n galluogi cefnogwyr i ennill pwyntiau wrth brynu tocynnau i gemau rynglwadol a, gydag hynny, cael blaenoriaeth wrth archebu tocynnau i gemau yn y dyfodol.

Fel arall, mae'r Wal Goch yn derm cyffredinnol am cefnogwyr selogaf Cymru sy'n gwisgo crysau cochion ac, yn aml, ond nid yn unig, yn sefyll yn Eisteddle Canton yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Does dim gwaharddiant ar hil, rhyw na rhywioldeb a cafwyd rhaglen ar BBC Radio Cymru am Merched y Wal Goch a ddarlledwyd ym Mehefin 2021.[4]

Gŵyl y Wal Goch[golygu | golygu cod]

Trefnir Gŵyl y Wal Goch fel rhan o ddathliadau Cymru yn cyrraedd Cwpan Pêl-droed y Byd 2022. Mae'r ŵyl yn dridiau o ddathlu a fydd yn cael ei gynnal ar 11-13 Tachwedd 2022 gan y trefnwyr, Expo’r Wal Goch.Bydd enwau adnabyddus o fyd pêl-droed yn ymgasglu yn Wrecsam, sef “cartref ysbrydol” y gêm Gymreig (yn ôl y trefnwyr), i ddathlu a thrafod diwylliant pêl-droed Cymru. Sefydlwyd y digwyddiad gan Russell Todd a Tim Hartley er mwyn defnyddio pêl-droed yng Nghymru fel grym er daioni cymdeithasol. Mae’r trefnwyr yn gobeithio defnyddio’r ŵyl i roi sylw i’r problemau ehangach yn ymwneud â phêl-droed gan gynnwys trafod y problemau moesol o gynnal Cwpan y Byd yn Qatar.[5]

Yn ogystal â Gŵyl y Wal Goch, cynhelir hefyd Gŵyl Cymru sydd o dan adain Cymdeithas Bêl-droed Cymru gŵyl o leiaf deng niwrnod i ddechrau ar 19 Tachwedd 2022. Mae'n rhan o ddathliadau Cwpan y Byd ac ar gyfer selogion y Wal Goch, yn enwedig gan bydd nifer methu neu'n gwrthod teithio i Catar.[6]

Y Wal Goch mewn Diwylliant Gyfoes[golygu | golygu cod]

Yws Gwynedd a gyfansoddodd Ni fydd y Wal ac oedd un o gyflwynwyr cyfres deledu, Y Wal Goch ar gyfer Euro 2020

Cyfres Deledu[golygu | golygu cod]

  • Cyfres Y Wal Goch - Yn 2021 darlledwyd rhaglen ar S4C am y Wal Goch, dan teitl o'r un enw. Roedd Y Wal Goch yn raglen wedi ei recordio gyda cynulleidfa fyw gyda'r cyflwynwyr Yws Gwynedd, Mari Lovgreen yn sgwrsio gyda chwarewyr pêl-droed a chefnogwyr gyda cerddoriaeth Gymraeg fyw.[7]

Caneuon[golygu | golygu cod]

  • Ni fydd y Wal - cyfansoddwyd cân boblogaidd Ni fydd y Wal gan y perfformiwr Yws Gwynedd yn dathlu'r tîm a'r cefnogwyr ar gyfer cystadleuaeth Cwpan Pêl-droed UEFA 2021. Mae'r gytgan ddwyieithog yn canu ni fydd y wal, we'll be the wall, uno mewn canu a neb in rhwystro a neb i'n dal ni yn ôl.[8]
  • The Red Wall of Cymru - cân swyddogol tîm Cymru ar gyfer cystadleuaeth Euro 2020 (a gynhaliwyd yn 2021 oherwydd Covid-19, gan Mike Peters, cyn brif leisydd grŵp The Alarm. Lansiwyd ym mis Mai 2021.[9]
  • We've got the Red Wall - cân ddwyieithog sy'n codi arian i elusen Gôl - elusen cefnogwyr pêl-droed a sefydlwyd yn 2002 a gasglodd arian i blant yn Baku yn dilyn gêm Cymru yn erbyn Aserbaijan. Cyfansoddwyd y gân gan Andrew Dowling o Don Pentre i gyd-fynd ag ymddangosiad Cymru yn Cwpan y Byd Pêl-droed 2022 yn Catar.[10][11]

Llyfrau[golygu | golygu cod]

  • Y Wal Goch - Ar Ben y Byd (gol. Ffion Eluned Owen; Gwasg Y Lolfa, 2022)[12] - cyfrol o ysgrifau am hanesion dilyn y tîm i bedwar ban byd, cip ar y caneuon, yr hwyl a’r ffasiwn, a golwg ar y twf mewn balchder tuag at Gymreictod a’r Gymraeg. Cyfraniadau gan; Dafydd Iwan, Gwennan Harries, Greg Caine, Garmon Ceiro, Iolo Cheung, David Collins, Tommie Collins, Rhian Angharad Davies, Meilyr Emrys, Annes Glynn, Gwennan Harries, Rhys Iorwerth, Llion Jones, Bryn Law, Sarah McCreadie, Penny Miles, Sage Todz ft. Marino a Fez Watkins.[13] [14]

Masnachol[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd cwmni masnachol breifat, Wal Goch sy'n gwerthu crysau T, hetiau bwced, tracwisgoedd ag ati. Mae gan y cwmni drwydded cynnyrch gan y Gymdeithas Bêl-droed. Broliant y cwmni yw, "Wal Goch: Our clothes are worn for Wales." ac "exclusive apparel for the Red Wall".[15]

Nwyddau[golygu | golygu cod]

Ceir jig-so Y Wal Goch ar werth mewn siopau Cymreig. Cynhyrchwyd y jigo gan gwmni Ravensberger a daw mewn dewis o ddau faint, 200 neu 1000 darn.[16]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Y Swistir: Ffwtbol, ffans a pharch i'r Wal Goch". BBC Cymru Fyw. 1 Mehefin 2021.
  2. "Euro 2020: Wales await Red Wall's emotional return for Albania friendly". BBC Sports News. 5 Mehefin 2021.
  3. 3.0 3.1 David Owens. "Adeiladu'r Wal Goch". Gwefan Croeso Cymru. Cyrchwyd 8 Hydref 2022.
  4. "Merched y Wal Goch". BBC Radio Cymru. 12 Mehefin 2021.
  5. "Gŵyl Wal Goch yn cynnig blas o Gwpan y Byd yn Wrecsam". Golwg360. 8 Medi 2022.
  6. "GŴYL CYMRU: CYMDEITHAS BÊL-DROED CYMRU YN CYHOEDDI GŴYL GREADIGOL I UNO'R WAL GOCH". Gwefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru. 27 Medi 2022.
  7. "Amser i ddechrau edrych ymlaen at yr Euros hefo'r Wal Goch" (PDF). Datganiad i'r wasg S4C. 6 Mai 2021.
  8. "Ni fydd y Wal". Sianel Youtube BBC Radio Cymru. 17 Mai 2021.
  9. "THE ALARM AND THE RED WALL TO RELEASE OFFICIAL UEFA EURO 2020 SONG". Gwefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru. 5 Mai 2021.
  10. "Anthem newydd sbon i'r Wal Goch ar gyfer Cwpan y Byd - We've Got The Red Wall!!". Twitter rhaglen Heno. 6 Hydref 2022.
  11. "Wales football fans' charity World Cup song We've Got The Red Wall released". The Penarth Times. 30 Medi 2022.
  12. Owen, Ffion Eluned (2 Tachwedd 2022). "Y Wal Goch - Ar Ben y Byd". Gwasg Y Lolfa.
  13. "'Mae yna fwy i'r Wal Goch na dilyn pêl-droed'". Golwg360. 31 Hydref 2022.
  14. "Llyfr Y Wal Goch - Cwpan Y Byd; Ffion Eluned sydd ac apêl arbennig i gefnogwyr pel-droed Y Wal Goch". Rhaglen Aled Hughes BBC Radio Cymru. 14 Mehefin 2022.
  15. "Wal Goch". Gwefan Wal Goch. Cyrchwyd 8 Hydref 2022.
  16. "Jigso 'Y Wal Goch'". Gwefan Oriel Odl. Cyrchwyd 8 Hydref 2022.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]