Troellwr Mawr
Oddi ar Wicipedia
| Troellwr Mawr | ||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
| Enw deuenwol | ||||||||||||||
| Caprimulgus europaeus (Linnaeus, 1758) |
Mae'r Troellwr Mawr (Caprimulgus europaeus) yn aelod o deulu'r Caprimulgidae, y Troellwyr, a'r unig aelod o'r teulu yma yn y rhan fwyaf o Ewrop a rhan ogleddol Asia. Daw'r enw o'i gân, sy'n sŵn tebyg i sŵn tröell hen-ffasiwn.
Aderyn mudol yw'r Troellwr Mawr, yn cyrraedd cyn diwedd Ebrill neu ddechrau Mai. Treulia'r gaeaf yn Affrica. Fe'i ceir ar dir agored, yn aml yn nythu mewn llannerch o fewn coedwig neu gerllaw i goedwig. Fel rheol, mae'n dechrau hedfan i hela pryfed wedi i'r haul fachlud.
Mae'n aderyn gweddol gyffredin mewn cynefinoedd addas yng Nghymru.