Ton-teg

Oddi ar Wicipedia
Ton-teg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5679°N 3.308°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMick Antoniw (Llafur)
AS/auAlex Davies-Jones (Llafur)
Map

Pentref bychan ger Pontypridd yn Rhondda Cynon Taf ydy Ton-teg (hefyd: Tonteg), tua 9 milltir i'r gogledd o Gaerdydd. Mae Tonteg yn eistedd wrth ymyl y pentref Pentre'r Eglwys ac nid yw'r ffiniau rhwng y ddau pentref yn glir.

Mae yna fwnt hanesyddol or 12g o'r enw 'Tomen y Clawdd' wedi ei leoli yno ar Ffordd Gerdinan.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mick Antoniw (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Alex Davies-Jones (Llafur).[1][2]

Tarddiad Enw[golygu | golygu cod]

Daw'r enw o'r sail Twyn-teg, gan gyfeirio at y twyn, neu'r bryn uwch y pentref[3]. Ceir tŷ fferm uwch Pentre'r Eglwys a elwir hyd heddiw yn Dan-y-Twyn gan arddel yr hen enw.


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Rondda Cynon Taf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.