Sir Gaernarfon (etholaeth seneddol)
Oddi ar Wicipedia
| Sir Gaernarfon Etholaeth Sir |
|
|---|---|
| Creu: | 1542 |
| Diddymwyd: | 1950 |
| Math: | Tŷ'r Cyffredin |
| Aelodau: | Un |
Roedd etholaeth Sir Gaernarfon yn ethol aelodau i senedd San Steffan yng ngogledd Cymru. Fe'i diddymwyd yn 1950. Yn ddaearyddol, roedd yr etholaeth yn rhan o Wynedd.
Dyma'r etholaeth i Blaid Cymru ei hymladd gyntaf erioed. Gwnaeth hynny yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1929 a'i hymgeisydd oedd Lewis Valentine, Llywydd Cyntaf y Blaid. Cafodd 609 o bleidleisiau sef 1.6% o gyfanswm o 38,043.
Aelodau Seneddol [golygu]
- 1660 – 1661: Syr John Glynne
- 1661 – 1675: Syr Richard Wynne
- 1675 – 1679: Robert Bulkeley
- 1679 – 1689: Thomas Bulkeley
- 1689 – 1697: Syr William Williams
- 1697 – 1705: Thomas Bulkeley
- 1705 – 1713: Syr John Wynn, 5ed Barwnig
- 1713 – 1715: William Griffith
- 1715 – 1740: John Griffith
- 1740 – 1741: John Wynn
- 1741 – 1754: William Bodfel
- 1754 – 1761: Syr John Wynn
- 1761 – 1774: Thomas Wynn, Barwn 1af Niwbwrch
- 1774 – 1780: Thomas Assheton Smith
- 1780 – 1790: John Parry
- 1830 – 1832: Charles Griffith-Wynne
- 1832 – 1837: Thomas Assheton Smith (Ceidwadol)
- 1837 – 1841: John Ralph Ormsby-Gore (Ceidwadol)
- 1841 – 1866: Edward Douglas-Pennant (Ceidwadol)
- 1866 – 1868: George Douglas-Pennant (Ceidwadol)
- 1868 – 1874: Love Jones-Parry (Rhyddfrydol)
- 1874 – 1880: George Douglas-Pennant (Ceidwadol)
- 1880 – 1880: Charles James Watkin Williams (Rhyddfrydol)
- 1880 – 1885: William Rathbone(Rhyddfrydol)
- 1918 – 1922: Charles Edward Breese (Rhyddfrydol Clymblaid)
- 1922 – 1923: Robert Thomas Jones (Llafur)
- 1923 – 1945: Goronwy Owen (Rhyddfrydol)
- 1945 – 1945: David Davies (Rhyddfrydol)
- 1945 – 1950: Goronwy Roberts (Llafur)