Peter Hope Jones

Oddi ar Wicipedia
Peter Hope Jones
Ganwyd21 Mai 1935 Edit this on Wikidata
Prestatyn Edit this on Wikidata
Bu farw13 Gorffennaf 2020 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnaturiaethydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Naturiaethwr o Gymro oedd Peter Hope Jones (21 Mai 193513 Gorffennaf 2020) a ffigwr dylanwadol yn adaryddiaeth Cymreig. Cyfunodd Jones gysactrwydd y gwyddonydd gyda theimladrwydd y bardd. Cyfunodd rhyw fyfyrgarwch moesol ym manylion pob testun neu faes fu dan ei sylw gyda'i fydolwg holistig athronyddol. Dylanwadodd ar genedlaethau o naturiaethwyr yn gymaint trwy ei bersonoliaeth a thrwy ei waith. Meddyliai am eraill pob amser, ond dangosodd trwy ei bersonoliaeth atyniadol bregusrwydd fu'n ei herio trwy ei oes yn sgil iselder. Mae teyrnged iddo yn y Guardian, 29 Gorffennaf 2020 [1].

Dylanwadau cynnar[golygu | golygu cod]

Magwyd Jones ym Mhrestatyn, nid nepell o aber y Ddyfrdwy. Hannai ei fam Menna o Lanrhaeadr-ym-Mochnant lle bu ei dad Stan yn gweithio ym Manc y Midland nes iddo gael ei alw I wasanaethu yn y rhyfel. Cafodd Jones ei addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg y Rhyl. Roedd ganddo lais tenor clir gan arwain côr ei dŷ yn Eisteddfod yr ysgol honno. Allan o’r ysgol ei feic oedd popeth, a dechreuodd wylio adar dan ddylanwad cyfrol Edmund Sandars "Bird Book for the Pocket" oddiar silffoedd ei Daid. Mwynhaodd yr awyr agored gyda chyfeillion agos, a threuliodd wyliau ysgol gyda theulu ei fam ar ffermydd ger Llanrhaeadr. Cyrhaeddodd Brifysgol Bangor yn 1953 i astudio Coedwigaeth. Daeth yn rhan o Grwp Adar Bangor yn fuan gan gychwyn cyfri hwyaid a rhydyddion llynnoedd ac Aberoedd Môn. Chwaraeodd hoci i garfan gyntaf y brifysgol a chafodd brofion i’r tim cenedlaethol Cymreig, ond bu’n rhaid ymollwng o hynny oherwydd ei iselder clinigol.

Bwrw Prentisiaeth[golygu | golygu cod]

Ym mis Mawrth 1956 cafodd swydd Warden Cynorthwyol ar Fair Isle, lle roedd y Warden Peter Davis newydd gyrraedd o Ynys Sgogwm, ac yno cafodd seiliau cadarn mewn adaryddiaeth, yn enwedig astudiaethau modrwyo a mudo adar. Ei brosiect nesaf yn 1958 oedd gweithio’n wirfoddol ar gorsdir y Camargue yn ne Ffrainc, yn cynorthwyo’r ymgyrch fodrwyo yng Ngorsaf Ymchwil Tour du Valat o dan ei berchen y Dr. Luc Hoffman. Cynhwysai hyn rai wythnosau yn Alpau’r Swisdir ac ar arfordir Sbaen.

Gyrfa Broffesiynol[golygu | golygu cod]

Mehefin 1960 cafodd Jones ei apwyntio yn Warden-Naturiaethwr ar Warchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch i’r Gadwraeth Natur a rhan o’i waith oedd gwarchod nythod y bodaod Montagu yno. Daeth yn gyfeillion gyda’r artist bywyd gwyllt Charles Tunnicliffe, gan ganfod cyrff newydd-drengi ar y traethau i Tunnicliffe eu defnyddio yn ei gelf. Daeth yn ffrindiau hefyd gyda Jill Wild fu’n ymweld â Niwbwrch gyda grwp cadwraeth gwirfoddol, a buont briodi yn 1964. Y flwyddyn ganlynol symudodd I Feirionnydd gyda naw gwarchodfa yn ei ofal. Arolygodd y poblogaethau o adar yno yn fanwl a chyhoeddodd y canlyniadau. Gwnaeth amser hyd yn oed i ymuno â’r Tim Achub Mynydd lleol Clwb Rhinog a helpu ei redeg. Yn 1968 enillodd Wobr Goffa Winston Churchill a ganiataodd iddo dreulio dau fis yn yr UD yn astudio cadwraeth a rheolaeth bywyd gwyllt.

Dechrau gofidiau[golygu | golygu cod]

Daeth ei waith gyda’r Cyngor Gwarchod Natur i ddiwedd disymwth tua 1973 ar ôl i Jill ofyn iddo am ysgariad, a’r straen yn ei orfodi i ymddiswyddo. Dwysaodd y gofidiau pan, yn 1982, bu’n rhaid mynd i’r ysbyty am rai wythnosau ar ôl pwl o endocarditis (cysylltiedig â’r clefyd cryd cymalau ei blentyndod), ac fe ddychwelodd i Brestatyn i adennill ei nerth. Y flwyddyn ganlynol symudodd i Borthaethwy, angorfa llong ymchwil Prifysgol Bangor y Prince Madog , ac fe gyfranogodd mewn prosiect i gyfri adar môr a morfilod yn y Môr Celtaidd. Priododd Jones â Joan Lewis yn 1985.

O nerth i nerth[golygu | golygu cod]

Yn 1976 fe’i apwyntwyd gan yr RSPB yn ecolegydd adar môr ar yr Ynysoedd Erch lle sefydlodd gyfres o glogwyni nythu addas I’w harolygu’n flynyddol, yn ogystal â system o fonitro cyrff adar wedi eu tirio ar y traeth. Ar ddiwedd y contract hwn aeth i Lydaw i helpu ecolegwyr yno i astudio’r adar effeithiwyd gan ddrylliad yr Amoco Cadiz, ac yna i sir Benfro pan diriwyd tancer y Christos Bitas. Treuliodd wedyn dair blynedd yn Aberdeen fel rhan o dim 4-dyn Prosiect Adar-môr ar y Môr. Treulient cymaint o amser a phosibl ar y môr; yn achos Jones cynhwysai hyn bump wythnos ar lwyfan olew yn gysylltiedig â Brent Bravo yn hydref 1979. Cyhoeddwyd ei arsylwadau ar mudo’r adar a welodd fwrdd y llwyfan yn y cylchgrawn British Birds.

Enlli[golygu | golygu cod]

Treuliodd llawer o’i amser ar Enlli, gan gynnwys 12 mis yn ystod 1984/5. Bu’n gasglwr obsesiynol o bopeth am Enlli ers 1959, a bu’n olygydd adroddiad y Wylfa Adar yno ers 1999. Tra’n byw ar yr ynys bu’n gweithio ar The Natural History of Bardsey a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1988. Mae’n parhau I fod y cyflwyniad cyffredinol gorau o fywyd gwyllt yr ynys. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach cyhoeddodd Between Sea and Sky, casgliad meistrolgar o’i luniau, pob un â dyfyniad o farddoniaeth ei gyfaill R.S. Thomas, ficer Aberdaron a ymwelai yn aml ag Enlli.

Ymestyn ei faes[golygu | golygu cod]

Yng ngwanwyn 1986 cychwynnodd brosiect I’r RSPB ar statws ac ecoleg y grugiar ddu yng Nghymru, o safle yn Y Bala. Ar ôl ysgrifennu ei adroddiad ar y gwaith y flwyddyn wedyn fe’i rhwystrwyd gan iechyd gwael rhag parhau oherwydd y gwaith maes llafurus byddai gofyn iddo wneud. Fis Hydref 1987 cofrestrodd gyda’r Coleg Llyfryddiaeth yn Aberystwyth fel yr hynaf mewn dosbarth o 80, ac yn 1990 cyflwynodd draethawd hir Meistr ar y testun the feasibility of creating a wildlife database for Wales. Bu'n llyfrgellydd yn y pencadlys ym Mangor cyn ymddeol am gyfnod, a'i fryd, hyd yn oed y pryd hynny, oedd ar sefydlu technegau digidol i gadw lluniau a dogfennau - ar ddisg yn y cyfnod hwnnw (er yn rhyfeddol, mae’n debyg nad oedd erioed yn berchen ar ei gyfrifiadur personol!). Ail-ymunoodd â’r gwaith ym Mangor fel Ecolegydd Monitro, gan sefydlu tim o weithwyr a ddatblygodd yn rhaglen fonitro Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Arloesodd y dechneg o fonitro o’r unlle, gan ddatblygu dull o ddal cywreinrwydd newidiadau naturiol mewn cynefin ac a arddangosodd ei sgiliau ffotograffig a’i lygad am fanylder. Bu'r swydd hon yn gweddu, nid yn unig i'w gorff oedd yn gwanhau ond i'r cymhwyster llyfrgellyddol a oedd ganddo.

Ar ôl ymddeol[golygu | golygu cod]

Yn 1993 bu’n rhaid iddo gael llawdriniaeth ar ei galon: ar ôl gosod rheolydd-calon ymddeolodd o’r diwedd yn 1994. Roedd yntau a Joan yn hapus eu byd yn eu “Cuddfan”, ty bychan yng nghanol Porthaethwy. Caniatodd ymddeol iddo barhau i ysgrifennu, gan gynnwys (gyda Ian Bonner) "A Contribution to the Flora of Bardsey" a gyhoeddwyd gan CCGC yn 2002. Ei brosiect nesaf oedd llyfr dwyieithog sylweddol ei faint Birds of Anglesey - Adar Môn (gyda Paul Whalley). Yn 2001 mewn erthygl yng nghylchgrawn newydd ar y pryd Natur Cymru, ysgrifennodd am ysbrydoliaeth a geir o warchodfeydd natur fel Enlli, a oedd iddo fe yn ganlyniad i foeseg ac i'r ymwybyddiaeth dynol yn hytrach na chrefydd theistig. Dadleuodd y gallai gwarchodfeydd gyfrannu’n ddifesur i les y Ddynoliaeth fel ffynhonnell o harddwch a naturioldeb.

Pen y mwdwl[golygu | golygu cod]

Efallai iddo ddod fymryn yn rhy hwyr, ond mor addas oedd y Gwobr Cyflawniad Oes Cymdeithas Adarydda Cymru yn 2012 (gan Iolo Williams). Cyfeiriwyd at ei waith ar adar-môr, gan gynnwys monitro trychinebau dryllio tanceri olew, a chyfanswm o 148 o gyhoeddiadau. Gorffennodd trwy gyfeirio ato fel “y dyn mwyaf diymhongar hwn”. Roedd yn ddygn y tu hwnt i grediniaeth, cydwybodol ymhell y tu hwnt i ddyletswydd ac yn ysbrydoliaeth i'w gyfeillion a’i gydweithwyr. Cyfyngwyd ei orchestion gan nifer yr oriau dydd yn unig, ond hefyd gan pyliau trist o salwch. Bu farw Joan yn 2014. Fe’i goroesir gan ei chwaer Margaret (Marty) a’I frawd Ron.[1]

Llyfrau[golygu | golygu cod]

  • Birds of Anglesey - Adar Môn
  • Birds of Merioneth
  • Birds of Caernarvonshire (efo Peter Dare)
  • Skins of guillemots, Uria aalge, and razorbills, Alca torda, examined at Cascais, Portugal in May 1982 (Memórias do Museu do Mar)
  • Enlli: Ddoe a Heddiw / Bardsey: Past and Present
  • The Natural History of Bardsey
  • Between Sea and Sky - Images of Bardsey (efo R.S. Thomas)
  • Beauty and Spirit at Bardsey

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Seilwyd ar adroddiad PHJ ei hun o'i fywyd: Bwletin Llên Natur Awst 2020 (rhifyn 150)