Charles Tunnicliffe
Arlunydd a darlunydd arddull naturolaidd adar a bywyd gwyllt o fri rhyngwladol oedd Charles Frederick Tunnicliffe (1901 – 7 Chwefror 1979), a dreuliodd y rhan fwyaf o'i oes ym Môn.
Bywyd [golygu]
Ganwyd Tunnicliffe yn 1901 yn Langley, Sir Gaer, gogledd-orllewin Lloegr a threuliodd ei flynyddoedd cynnar ar fferm yn ardal Macclesfield. Enillodd ysgoloriaeth i astudio yn Coleg Brenhinol y Celfyddydau yn Llundain.
Yn 1947 symudodd o Fanceinion i fyw mewn bwthyn ar lan aber Afon Cefni, Ynys Môn, lle bu fyw hyd ei farwolaeth yn 1979.
Gwaith [golygu]
Mae llawer o waith Tunnicliffe yn dangos adar yn eu lleoliadau naturiol a golygfeydd naturiolaidd eraill. Darluniodd waith Henry Williamson, Tarka the Otter. Dangoswyd ei waith hefyd ar gardiau te Brooke Bond yn y 1950au a'r 1960au. Darluniodd nifer o lyfrau Ladybird hefyd.
Ar ôl ei farwolaeth etifeddwyd llawer o'i waith gan Gyngor Sir Ynys Môn, ar yr amod ei fod yn aros yn gasgliad cyfan ac ar gael i bawb. Fe'i cedwir bellach yn Oriel Ynys Môn, ar gyrrion Llangefni.
Dolenni allanol [golygu]
- Oriel Ynys Môn
- (Saesneg) Cymdeithas Charles Tunnicliffe