Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar

RSPBlogo.png

Sefydlwyd 1889
Gwefan http://www.rspb.org.uk/

Cymdeithas er gwarchod adar a'u cynefinoedd yw Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar. Cyfeirir ati fel rheol fel yr RSPB, o'i henw Saesneg The Royal Society for the Protection of Birds.

Ffurfiwyd y Gymdeithas yn 1889 yn Didsbury, Lloegr. Y symbyliad oedd fod niferoedd yr Wyach Fawr Gopog wedi disgyn i lefel beryglus o isel oherwydd hela, gan fod plu'r rhywogaeth yma yn boblogaidd iawn fel addurn i hetiau merched.

Ffurfiwyd y gwarchodfeydd cyntaf yn 1932 yn Dungeness ac East Wood, yna crewyd yr enwocaf o'u gwarchodfeydd, Minsmere ym 1947. Ym 1948 daeth Ynys Gwales yn warchodfa, y gyntaf yng Nghymru. Yn 1967 dechreuwyd apêl am £100,000 i brynu tir ar gyfer tair gwarchodfa newydd, gan gynnwys RSPB Ynys-hir a Gwenffrwd. Symudasant i'w swyddfeydd presennol yn The Lodge, Sandy yn 1961, ac agorwyd y swyddfa Gymreig gyntaf yn 1971. Prynwyd Ynys Dewi ym 1992, a chyrhaeddwyd miliwn o aelodau yn 1997.

Dolenni allanol[golygu]

Bird template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am aderyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.