Fair Isle

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Clogwyni Fair Isle

Ynys rhwng Ynysoedd Erch ac ynysoedd Shetland yng ngogledd yr Alban yw Fair Isle (Hen Lychlynneg: Frjóey, Gaeleg: Eileann nan Geansaidh). Daw dan Shetland yn weinyddol, er ei bod ychydig yn nes at North Ronaldsay yn Ynysoedd Erch nag at unrhyw fan y Shetland.

Mae'r ynys yn 4.8 km o hyd a 2.4 km o led. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 69. Ceir un ysgol gynradd ar yr ynys, ond rhaid i'r plant fynd i Lerwick am addysg uwchradd. Mae'r ynys yn adnabyddus am ei gwylfa adar, lle gwelir nifer fawr o rywogaethau prin yn y gwanwyn a'r hydref, ac am dechneg gweu Fair Isle.