Loire-Atlantique

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Loire-Atlantique
Gweler hefyd Loire (gwahaniaethu).

Département o Ffrainc a grewyd yn 1790 yw Loire-Atlantique (Llydaweg: Liger-Atlantel). Ei phrifddinas yw Naoned (Ffrangeg: Nantes).

Yn hanesyddol, roedd Loire-Atlantique yn rhan o Lydaw, gyda Naoned yn brifddinas Llydaw. Gwahanwyd hi oddi wrth y gweddill o Lydaw ar 30 Mehefin 1941, gan Lywodraeth Vichy. Parhaodd hyn wedi cwymp Vichy, ac yn 1955 gwnaed Loire-Atlantique yn rhan o ranbarth (Région) Pays de la Loire.

Arfbais Loire-Atlantique

Mae ymyrch yn parhau i ail-uno Loire-Atlantique a Llydaw, a dangosodd arolwg barn yn 2001 fod 75% o'r bobl a holwyd o blaid hynny.

Yn 1999, roedd y boblogaeth yn 1,134,266. Yn hanesyddol, siaredid Llydaweg yn y rhan orllewinol, ac hefyd yn Naoned oherwydd pobl yn symud i mewn i'r ddinas o orllewin Llydaw. Mae Gallo, iaith Romawns, hefyd yn cael ei siarad.

Flag of France.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill