Maine-et-Loire

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Maine-et-Loire yn Ffrainc

Un o départements Ffrainc, yn rhanbarth Pays de la Loire yng ngorllewin y wlad, yw Maine-et-Loire. Prifddinas y département yw dinas hanesyddol Angers. Mae'n ffinio â départements Loire-Atlantique, Ille-et-Vilaine, Sarthe, Indre-et-Loire, Vienne, Deux-Sèvres, a Vendée. Llifa afonydd Maine a Loire trwy'r département gan roi iddo ei enw. Yng nghyfnod y Chwyldro Ffrengig cafwyd rhyfel cartref a adwaenir fel Rhyfel Vendée yn yr ardal, pan ymladdodd gwladwyr Vendée, Poitou ac Anjou yn erbyn yr awdurdodau ym Mharis.

Mae'r prif drefi yn cynnwys:

Arfbais Maine-et-Loire
Flag of France.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.