Afon Loire

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llwybr yr afon Loire (neu Liger)
Gweler hefyd Loire (gwahaniaethu).

Afon 1,020 km o hyd, yr hiraf yn Ffrainc, yw Afon Loire (Occitaneg, Léger / Leir; Francoprovençal, Lêre; Llydaweg a Lladin, Liger, neu Stêr Liger yn Llydaweg hefyd, yn tarddu o'r enw Galeg).

Mae'n tarddu yn Ardèche (Mont Gerbier de Jonc yw enw'r mynydd) ac yn llifo ar draws Ffrainc o'r de-ddwyrain i'r gogledd-orlelwin cyn cyrraedd de Llydaw ac aberu yn yr Iwerydd.

Mae ei basn o 117 000 km² yn cynrychioli 20% o dir Ffrainc; gyda basn Afon Seine, basn neu dalgylch Afon Loire yw'r unig un o'r rhai afonydd mawr Ffrainc sy'n gorwedd yn gyfangwbl yn y wlad ei hun.

Mae dyffryn Val de Loire ymhlith y mwyaf hanesyddol yn Ffrainc ac mae'n enwog ledled Ewrop am ei gestyll trawiadol niferus a adnabyddir heddiw fel Les chateaux de la Loire. Val de Bretagne yw'r enw ar ddyffryn y Loire rhwng Ingrandes-sur-Loire a Nantes yn Pays de la Loire.

Mae hi'n aberu yng Nghefnfor Iwerydd yn région Loire-Atlantique (yn y Llydaw hanesyddol), ac mae ganddi foryd yno.

Llednentydd[golygu]

Ymhlith llednentydd Afon Loire mae:

Prif drefi ar Afon Loire[golygu]

Afon Loire yn Nevers

Dyro'i henw ar: