Afon Maine

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Maine yn Angers

Afon yng nghanolbarth Ffrainc sy'n un o lednentydd afon Loire yw afon Maine. Mae'n rhoi ei henw i département Maine-et-Loire.

Dim ond 12 km yw hyd yr afon. Fe'i ffurfir wrth i afon Mayenne ac afon Sarthe ymuno a'i gilydd i'r gogledd o Angers. Wedi llifo trwy ddinas Angers, mae'n ymuno ag afon Loire i'r de-orllewin o'r ddinas.