Afon Indre
Oddi ar Wicipedia
Afon Indre ger Rigny-Ussé.
Afon yng nghanolbarth Ffrainc sy'n un o lednentydd afon Loire yw 'afon Indre. Mae'n rhoi ei henw i départements Indre ac Indre-et-Loire, ac hefyd yn llifo trwy département Cher.
Ceir ei tharddle yn y Monts de Saint-Marien yn département Cher, ac mae'n ymuno ag afon Loire rhwng Rivarennes ac Avoine, yn département Indre-et-Loire. Mae'n llifo heibio dinasoedd La Châtre, Châteauroux a Loches.