Afon Sarthe
Oddi ar Wicipedia
Afon yng ngorllewin canolbarth Ffrainc yw afon Sarthe, yn llifo yn bennaf trwy région Pays de la Loire. Mae'n 313 km o hyd. Ceir ei tharddle ger Saint-Aquilin-de-Corbion, yn département Orne. Mae'n ymuno ag afon Mayenne i ffurfio afon Maine i'r gogledd o Angers yn Maine-et-Loire.