Afon Vienne

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afon Vienne yn Limoges

Afon yn Ffrainc sy'n un o lednentydd afon Loire yw afon Vienne.

Mae'n tarddu ar uchder o 920 medr yn departement Corrèze (Limousin). Mae'n rhoi ei henw i ddau departement, Haute-Vienne (Limousin) a Vienne (Poitou-Charentes), ac mae hefyd yn llifo trwy Charente (Poitou-Charentes), ac mae'n cyrraedd afon Loire ger Candes-Saint-Martin yn departement Indre-et-Loire (Centre).

Ynhlith y dinasoedd ar lan yr afon mae Limoges, Confolens, L'Isle-Jourdain, Chauvigny, Châtellerault a Chinon.