Aveyron

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfbais Aveyron
Lleoliad Aveyron yn Ffrainc

Un o départements Ffrainc, yn rhanbarth Midi-Pyrénées yn ne'r wlad, yw Aveyron. Ei phrifddinas weinyddol yw Rodez. Mae Aveyron yn gorwedd i'r de o'r Massif Central ac yn ffinio â départements Lot, Cantal, Lozère, Gard, Hérault, Tarn a Tarn-et-Garonne. Llifa Afon Aveyron trwyddo gan roi iddo ei enw. Mae'r afonydd eraill sy'n llifo trwy'r ardal fynyddig hon yn cynnwys Afon Truyère, Afon Lot ac Afon Tarn.

Trefi[golygu]

Mae'r prif drefi yn cynnwys:

Bwyd a diod[golygu]

Aveyron yw cartref caws Roquefort, sydd wedi cael ei gynhyrchu yn yr ardal ers cyfnod y Rhufeiniaid.

Flag of France.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.