Rodez

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rodez

Rodez (Occitaneg: Rodés) yw prifddinas département Aveyron yn Midi-Pyrénées, de Ffrainc. Roedd poblogaeth y ddinas yn 24,540 yn 2008, gyda phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 55,000. Saif rhwng Toulouse, Montpellier a Clermont-Ferrand, ar dir uchel uwchben afon Aveyron.

Dechreiodd y ddinas fel oppidum Celtaidd Segodunum. Cipiwyd y ddinas ar wahanol adegau gan y Fisigothiaid, y Ffranciaid, byddin Islamaidd yn 725 a chan y Saeson yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd. Nodweddir ei hanes gan ymryson rhwng Dugiaid Rodez ac esgobion Rodez.

Adeiladau nodedig[golygu]

  • Cathédrale Notre-Dame de Rodez

Pobl enwog o Rodez[golygu]


Eglwys Gadeiriol Rodez