Val-de-Marne
Oddi ar Wicipedia
Un o départements Ffrainc, yn rhanbarth Île-de-France yng ngogledd y wlad, yw Val-de-Marne. Canolfan weinyddol y département, sydd i bob pwrpas yn rhan o ddinas Paris, yw Créteil. Llifa Afon Marne, un o ledneintiau Afon Seine, trwy'r département gan roi iddo ei enw. Mae'n gorwedd ger canol dinas Paris ar lannau afonydd Seine a Marne, gan ffinio â départements Essonne, Hauts-de-Seine, Paris, Seine-Saint-Denis, a Seine-et-Marne.