Llu Cynorthwyol Diogelwch Rhyngwladol
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth ISAF)
Llu milwrol a arweinir gan NATO yn Afghanistan yw'r Llu Cynorthwyol Diogelwch Rhyngwladol neu ISAF a sefydlwyd gan Benderfyniad 1386 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ar 20 Rhagfyr 2001. Mae'n cymryd rhan yn Rhyfel Afghanistan.
Mae gwledydd sy'n cyfrannu lluoedd yn cynnwys Rwmania, Gwlad Belg, Bulgaria, Denmarc, Canada, yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Ffrainc, yr Almaen, De Corea, Sbaen, Twrci, Gweriniaeth Iwerddon, Gwlad Pwyl, Portiwgal, a'r mwyafrif o aelodau'r Undeb Ewropeaidd a NATO ac hefyd Awstralia, Seland Newydd, Azerbaijan, a Singapore.