Gwylan Goesddu
Oddi ar Wicipedia
| Gwylan Goesddu | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Charadriiformes |
| Teulu: | Laridae |
| Genws: | Rissa |
| Rhywogaeth: | R. tridactyla |
| Enw deuenwol | |
| Rissa tridactyla (Linnaeus, 1758) |
|
Aelod o deulu'r gwylanod (Laridae) yw'r Wylan Goesddu.
Mae'n wylan ganolig o ran maint, tua 40 cm o hyd a 90 – 100 cm ar draws yr adenydd, gyda phen a chorff gwyn, llwyd ar y cefn a'r adenydd, pig melyn a choesau du. Fel rheol mae'n nythu ar glogwyni ger y môr yn rhan ogleddol Cefnfor Iwerydd a'r Cefnfor Tawel, yn enwedig o gwmpas Ewrop a Gogledd America. Pysgod yw ei phrif fwyd, ac anaml y'i gwelir ymhell o'r môr, yn wahanol i lawer o'r gwylanod eraill.
Mae'n aderyn gweddol gyffredin o gwmpas arfordir Cymru, lle ceir cryn nifer yn nythu.