Gŵydd
Oddi ar Wicipedia
- Mae'r erthygl yma yn trafod y rhywogaethau o adar. Am yr Ŵydd ddof, gweler Gŵydd (ddof).
| Gŵydd | |
|---|---|
| Gŵydd Canada Branta canadensis | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Anseriformes |
| Teulu: | Anatidae |
| Is-deulu: | Anserinae |
| Llwyth: | Anserini |
| Genera | |
Gŵydd yw'r enw a defnyddir am nifer o rywogaethau o adar yn perthyn i'r teulu Anatidae. Heblaw'r gwyddau, mae'r Anatidae yn cynnwys yr elyrch, sy'n fwy o faint, a'r hwyaid, sy'n llai. Defnyddir yr enw fel rheol am yr is-deulu Anserinae, llwyth Anserini. Defnyddir "gŵydd" am yr adar yn gyffredinol ac am yr ieir, weithiau cyfeirir at y gwryw fel "clagwydd" neu "clacwydd".
Genera [golygu]
Mae'r Anserini yn cynnwys y genera canlynol:
- Anser - y gwyddau llwydion, sy'n cynnwys yr Wydd ddof
- Chen - y gwyddau gwynion (yn aml yn cael eu cynnwys yn Anser)
- Branta - y gwyddau duon, er enghraifft Gŵydd Canada