Hugan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hugan
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Pelecaniformes
Teulu: Sulidae
Genws: Morus
Rhywogaeth: M. bassanus
Enw deuenwol
Morus bassanus
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron

Sula bassana

Mae'r Hugan (Morus bassanus) (hefyd Mulfran Wen neu Gwylanwydd) yn aderyn cyffredin ac adnabyddus o gwmpas glannau Môr Iwerydd, lle gellir ei weld yn pysgota yn arbennig yn yr haf.

Mae'r oedolyn yn aderyn hawdd ei adnabod, gyda phlu gwyn, heblaw am flaen yr adenydd, sy'n ddu. Mae'r pig yn las golau gyda darn o groen du heb blu arno o'i gwmpas, ac yn ystod y tymor nythu mae gwawr felen ar y pen a'r gwddf. Brown yw lliw yr adar ieuanc, ac maent yn troi'n wyn yn raddol dros gyfnod o bum mlynedd. Mae'r oedolion rhwng 87 a 100 cm o hyd a 165-180 cm ar draws yr adenydd.

Dosbarthiad yr Hugan

Maent yn nythu gyda'i gilydd, weithiau filoedd ohonynt, fel rheol ar ynysoedd bychain yn y môr. Mae'r nifer fwyaf yn nythu ar Ynys Bonaventure yn nhalaith Quebec, Canada, lle mae dros 60,000 ohonynt, ond mae 68% o boblogaeth y byd yn nythu ar Ynysoedd Prydain, er enghraifft tua 40,000 o barau ar ynys Boraraigh, rhan o ynysoedd Sant Kilda. Mae'r boblogaeth wedi cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Yn y gaeaf maent yn symud tua'r de.

Eu prif fwyd yw pysgod, sy'n cael ei dal trwy blymio i'r môr o'r awyr. Gallant blymio o uchder o tua 30m a tharo'r dŵr gyda chyflymdra o 100 km yr awr, ac mae ganddynt rai nodweddion corfforol sy'n eu galluogi i wneud hyn heb niwed, er enghraifft nid oes ganddynt ffroenau allanol.

Ynys Gwales[golygu]

Er bod yr Hugan yn aderyn cyffredin iawn o gwmpas glannau Cymru, dim ond mewn un lle yng Nghymru mae'n nythu: ar Ynys Gwales oddi ar arfordir Sir Benfro lle ceir 32,409 o barau yn 2004, sef tua 8% o boblogaeth y byd. Dyma'r trydydd nifer mwyaf drwy Ewrop a'r 4ydd drwy'r byd.

Cysylltiadau allanol[golygu]