Ffion Dafis

Oddi ar Wicipedia
Ffion Dafis
GanwydBangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Cymeriad Ffion Dafis yng nghyfres Amdani! ar S4C

Actores a chyflwynydd teledu a radio yw Ffion Dafis. Mae'n adnabyddus am ei gwallt cyrliog, ac fe'i gelwir yn aml yn Ffion Gwallt.

Mae Ffion Dafis yn hanu'n wreiddiol o bentref Dolwyddelan ond pan yn ifanc symudodd y teulu i Fangor pan gafodd ei thad swydd fel prifathro Ysgol y Garnedd. Mae'n gyn-ddisgybl o Ysgol Tryfan. Bu'n cyflwyno y rhaglen gylchgawn i bobl ifanc i-dot ar S4C yn ystod y nawdegau. Yn ddiweddarach, bu'n chwarae rhan Llinos yn y gyfres deledu Amdani! sef drama am dîm rygbi merched, cyfres yn seiliedig ar nofel o'r un enw gan Bethan Gwanas.

Bu'n cyflwyno rhaglenni radio C2 gyda'r nos rhwng 2008 a 2009, ac mae i'w gweld yn aml yn cyflwyno rhaglenni teledu S4C o Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol. Yn ddiweddar, bu'n rhan o gynhyrchiad cyntaf Theatr Genedlaethol Cymru, Deffro'r Gwanwyn yn 2011.

Mae ei gyrfa fel actores ar y teledu ac ar lwyfan wedi bod yn llawn ac amrywiol, rhwnwg monologau, rol fel Siwan yn nrama Saunders Lewis a'r Fonesig Macbeth yn nrama William Shakespeare, heb sôn am rannau mewn rhaglenni megis Rownd a Rownd.

Ers 2022, mae'n Gadeirydd cwmni Pyst, cwmni sy'n hybu'r celfyddydau.[1] Yn Ebrill 2023, cafodd swydd fel cyflwynydd rhaglen am y celfyddydau ar Radio Cymru bob pnawn Sul, ac mae hi wedi troi hefyd at gyfarwyddo.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Pennaeth a bwrdd newydd i gwmni sy'n hybu'r celfyddydau". BBC Cymru Fyw. 2022-12-16. Cyrchwyd 2024-02-14.
  2. "Radio Cymru: Ffion Dafis i gyflwyno rhaglen wythnosol newydd". BBC Cymru Fyw. 2023-02-19. Cyrchwyd 2024-02-14.