Rownd a Rownd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Set ffilm ar gyfer Rownd a Rownd ym Mhorthaethwy.

Cyfres deledu ar S4C yw Rownd a Rownd, sy'n seiliedig ar criw o bobl ifanc sydd efo rowndiau papur newydd.

Darlledwyd y bennod gyntaf ym 1995 a cafodd ei gynhyrchu gan Ffilmiau'r Nant, ond nawr fe'i cynhyrchir gan gwmni Rondo.[1] Mae'r gyfres yn cael ei ffilmio ym Mhorthaethwy, Ynys Môn.

Cafodd ei darlledu'n wreiddiol fel dwy benod chwarter awr pob wythnos yn cael ei darlledu ddwywaith yr wythnos drwy'r flwyddyn. Darlledwyd 1,000fed bennod y gyfres ar nos Fawrth 14 Ionawr 2014.[2]

Seren hiraf y gyfres oedd Dewi 'Pws' Morris a chwaraeodd rhan Islwyn Morgan, perchenog y siop bapur ers dechrau'r gyfres ym 1995, gadawodd y gyfres yn 2007.

Dolen allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Rownd a Rownd ar wefan Rondo
  2. 1000! Erthygl ar wefan Rownd a Rownd/S4C
Blank television set.svg Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato