Cyngor Sir Feirionnydd

Oddi ar Wicipedia
Cyngor Sir Feirionnydd
Enghraifft o'r canlynolCyngor Sir Edit this on Wikidata
Daeth i ben1974 Edit this on Wikidata

Roedd Cyngor Sir Feirionnydd yn awdurdod lleol Cymreig o 1889 hyd gael ei ddiddymu ym 1974.

Trosolwg[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd sir weinyddol Meirionnydd a'i hawdurdod lleol, Cyngor Sir Feirionnydd ym 1889 o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888. Cynhaliwyd yr etholiadau cyntaf ym mis Ionawr 1889. Diddymwyd y sir o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ar 1 Ebrill 1974.[1]

Roedd tiriogaeth yr ardal weinyddol wedi selio ar Sir Feirionnydd fel ag yr oedd ar ôl deddfau uno 1536-1542 ac yn cynnwys cantrefi Ardudwy, Penllyn, Edeirnion, Meirionnydd a Mawddwy.

Ym 1895 bu un newid bach i ffiniau'r awdurdod pan symudwyd plwyf Nantmor o Feirion i Sir Gaernarfon.[2]

Roedd ffiniau'r awdurdod lleol yn gyd fynd a ffiniau etholaeth seneddol Meirionnydd.

Roedd awdurdod olynol, Cyngor Dosbarth Meirionnydd, yn bodoli rhwng 1974 a 1995.[3] O ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 1996, daeth yn rhan o awdurdod unedol newydd Cyngor Gwynedd. Roedd Cyngor Dosbarth Meirionnydd yn cynnwys y cyfan o'r hen Sir Feirionnydd ac eithrio Edeirnion a daeth yn rhan o Gyngor Dosbarth Glyndŵr a Chyngor Sir Clwyd.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Rhwng 1834 a 1880 creodd nifer o ddeddfau gwella cymdeithasol nifer fawr o awdurdodau newydd i weinyddu gwasanaethau megis Deddf y Tlodion, deddfau iechyd cyhoeddus, deddfau addysg ac ati. Roedd yr awdurdodau newydd hyn yn ychwanegu at nifer yr awdurdodau lleol oedd eisoes yn bodoli ers oesoedd megis y siryfion, yr Arglwyddi Rhaglaw, festrïoedd plwyfol ac ati. Roedd cynifer y gwahanol sefydliadau wedi eu seilio ar wahanol gyfansoddiadau a threthi wedi troi gweinyddiad lleol yn lobsgóws anhydrin. Erbyn y 1880au roedd galw am dacluso'r gyfundrefn trwy greu awdurdodau lleol etholedig oedd yn gallu cyd drin nifer o'r edeifion cymysg hyn. Dyma gefndir Deddf Llywodraeth Leol 1884 a sefydlodd y Cynghorau Sir.[1]

Doedd canoli pwerau yn sirol ddim at ddant pawb, bu cwyno am bobl Ffestiniog yn dweud be di be i bobl Aberdyfi neu bobl Y Bermo yn tra arglwyddiaethu dros bobl Corwen bell.[1]

Creodd Deddf Llywodraeth Leol 1894 [4] ail ris o gynghorau dosbarth yn yr ardaloedd trefol a gwledig,[5] a pharhaodd hyd greu'r Cynghorau Cymuned fel rhan o ad-drefniad 1974.

Sefydlodd deddf 1894 bedwar Cyngor Dosbarth Gwledig trwy gyfuno'r plwyfi, ar batrwm Undebau'r Tlodion a oedd eisoes yn bodoli:

  • Deudraeth,
  • Dolgellau,
  • Edeirnion
  • Penllyn.

Rhoddwyd plwyf Pennal, a oedd eisoes yn rhan o Undeb Tlodi Machynlleth, tan ofal Cyngor Dosbarth Machynlleth, trefniant a barodd hyd 1955 pan wnaed Pennal yn rhan o Gyngor Dosbarth Gwledig Dolgellau.

Sefydlwyd hefyd chwe Chyngor Dosbarth Trefol yn:

Hanes[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd yr etholiad cyntaf i Gyngor Sir Feirionnydd ar 18 Ionawr 1889. [6] Etholwyd 33 Rhyddfrydwr, 8 Ceidwadwr ac un aelod annibynnol. Cyfarfu'r cynghorwyr ond nid y cyngor ar ddiwrnod olaf Ionawr a diwrnod olaf Chwefror er mwyn gwneud trefniadau ar gyfer ffurfio'r cyngor statudol ar 1 Ebrill 1889. Cadeiriwyd y cyfarfod cyntaf o'r cynghorwyr gan Samuel Pope QC, Dyffryn Ardudwy, llywydd Rhyddfrydwyr Meirionnydd. Roedd y cynghorydd Pope yn ŵr di-gymraeg a chododd nyth cacwn ar ei ben yn syth, trwy farnu mae unig iaith y Cyngor byddai'r Saesneg. Yng nghyfarfod 28 Chwefror 1889 yn y Bala, penodwyd Dr Edward Jones, Dolgellau yn gadeirydd swyddogol cyntaf y cyngor, newidiodd Jones y rheol iaith gan ddweud bod hawl siarad y ddwy cyn belled a bod crynodeb o'r hyn a ddywedwyd mewn un iaith yn cael ei rhoi yn yr iaith arall; y cadeirydd byddai'n gyfrifol am ddarparu'r crynodeb dros gynghorwyr uniaith yn y naill neu'r llall.[7]

Arferai'r Cyngor Sir gyfarfod ar yn ail yn y Bala, Abermaw, Ffestiniog a Dolgellau rhwng 1889 a 1916. O 1916 penderfynwyd defnyddio Neuadd y Sir, Dolgellau (adeilad y llys) yn siambr barhaol i'r cyngor. Ym 1952 agorwyd siambr a swyddfeydd newydd pwrpasol i'r cyngor ar Gae Penarlâg, Dolgellau.[8]

Cynhaliwyd y cyfarfod olaf o'r Cyngor ym mis Chwefror 1974.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Bowen, Geraint, gol. (1971). Atlas Meirionnydd. Y Bala: Gwasg y Sir.
  2. "Y GOGLEDD.|1894-09-26|Baner ac Amserau Cymru - Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2021-05-31.
  3. The Local Authorities (Closure of Accounts) (Wales) Order 1995 adalwyd 31 Mai 2021
  4. Deddf Llywodraeth Leol 1894
  5. "MERIONETH COUNTY COUNCIL - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1894-09-14. Cyrchwyd 2021-05-31.
  6. "MERIONETH COUNTY COUNCIL ELECTIONS.|1889-01-25|The Cambrian News and Merionethshire Standard - Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2021-05-31.
  7. "CYNGHOR SIROL MEIRIONYDD - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1889-03-06. Cyrchwyd 2021-05-29.
  8. Western Mail 02 Hydref 1953 tud 5 "Visit to New Council Offices"