Cynhaliwyd yr etholiad cyntaf i Gyngor Sir Feirionnydd ar 18 Ionawr1889. [1] Fe'i holynwyd gan etholiad 1892. Rhannwyd y sir yn nifer o wardiau un aelod gyda dau gynghorydd wedi'u hethol i gynrychioli rhai o'r ardaloedd trefol.
Roedd 1889 yn flwyddyn nodedig yn hanes Rhyddfrydiaeth Cymru, a symbylwyd gan fuddugoliaeth ymgeiswyr Rhyddfrydol ledled Cymru yn etholiadau cyntaf y cynghorau sir. Roedd y canlyniad ym Meirion yn debyg iawn i'r canlyniad yn Sir Aberteifi.
Cafwyd 14 etholiad diwrthwynebiad, gan fod y Rhyddfrydwyr wedi sefyll ymgeiswyr ym mhob ward, Rhyddfrydwyr oedd y cyfan o'r aelodau diwrthwynebiad. Roedd nifer fawr o etholiadau cystadleuol ac roedd y mwyafrif yn fach yn y rhan fwyaf o achosion. Yn y rhan fwyaf o achosion bu'r cystadlaethau rhwng ymgeiswyr Rhyddfrydol a Cheidwadol gydag ambell i ymgeisydd Annibynnol (gwleidyddol). Mewn rhai wardiau roedd cystadlu rhwng dau neu ragor o Ryddfrydwyr oherwydd enwadaeth, gyda Rhyddfrydwyr a enwebwyd gan Fethodistiad Calfinaidd yn sefyll yn erbyn Rhyddfrydwyr a enwebwyd gan Annibynwyr (enwadol).[2]
Mae'r adran hon yn crynhoi'r canlyniadau manwl a nodir yn yr adrannau olynol. Hwn oedd yr etholiad sirol cyntaf ac felly nis ellir cymharu ag etholiad blaenorol. Disgrifiwyd un cynghorydd fel ymgeisydd Annibynnol ond cafodd ei grwpio, hefyd, mewn rhai adroddiadau gyda'r Ceidwadwyr.
Dyma dabl sy'n crynhoi canlyniad yr etholiad ar draws y sir. Etholwyd 42 o gynghorwyr.
Roedd Richard Jones yn ffigwr amlwg ym mywyd cyhoeddus y Bala, gan wasanaethu ar lawer o gyrff. Cafodd ei ethol yn henadur yng nghyfarfod cyntaf y Cyngor ond bu farw'n sydyn ym mis Chwefror, yn 65 oed. [3]
Trechodd Robert Roberts, meddyg a llawfeddyg o Isallt, Blaenau Ffestiniog Joseph Rhydwen Parry, gweinidog Annibynnol, o Ffordd Manod, Blaenau Ffestiniog. [1]
Etholwyd William Davies, ffermwr o Caerblaidd, Ffestiniog a John Hughes, ffermwr, o Hafod fawr isaf, Maentwrog, ar draul George Henry Ellis, cyfreithiwr, Penymount, Ffestiniog ac Edward Henry Jonathan, dilledydd, o Paris House, Y Ffor. [1]
Roedd A M Dunlop yn rheolwr chwareli Oakeley, Ffestiniog. Cafodd perchennog y chwareli, W E Oakeley ei ethol fel cyd aelod o'r cyngor fel ymgeisydd Ceidwadol yn Ward Maentwrog.
Ardaloedd Cyfun Llansantffraid a Chorwen (tair sedd)[golygu | golygu cod]
Etholwyd William Ffoulkes Jones, masnachwr coed, o'r Terrace, Corwen; Robert David Roberts, groser cyfanwerthol, o Landwr, Corwen, a Hugh Cernyw Williams, gweinidog y Bedyddwyr, o Ffordd Llundain, Corwen ar draul David Robert Jones, llawfeddyg, Ffordd y Bont, Corwen a Horatio Edward Walker, llawfeddyg, o Blasyndref, Corwen. [1]
Ardal Gyfunol Maenofferen a Diffwys (dwy sedd)[golygu | golygu cod]
Etholwyd John Parry Jones o'r Banc Dosbarth, Blaenau Ffestiniog a Robert Owen Jones, cyfreithiwr, y Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog ar draul Morris Jones, deliwr blawd, o Blaenbowydd, Blaenau Ffestiniog. [1]
Trechodd William Edward Oakeley o Blas Tanybwlch Griffith Ceidiog Roberts, gweinidog anghydffurfiol, Gwyndy, Maentwrog. [1] Yn yr hyn a ddisgrifiwyd fel y cyfarfod Rhyddfrydol cyntaf a gynhaliwyd yn Maentwrog, i gefnogi ymgeisyddiaeth Roberts, siaradodd Tom Ellis AS am dros awr a hanner. [11]
Etholwyd J B Jones, melinydd, o Frynyfelin a John Rowe, rheolwr chwarel, o Lasfryn View, Penrhyn, ar draul Edmund Morgan Roberts, ffermwr, o Gefntrefor isaf, Talsarnau a John Morgan, groser, o Canton House, y Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog. [1]
Ardaloedd Dwyrain a Gorllewin Trawsfynydd (dwy sedd)[golygu | golygu cod]
Etholwyd John Humphreys, meddyg a llawfeddyg, o Stryd Fronwynion, Trawsfynydd a Robert Hugh Pugh, ffermwr, o Frynllefrith, Trawsfynydd, ar draul David Tegid Jones, ffermwr, o'r Gopa a William Evans, dilledydd, o Meirion House, Trawsfynydd. [1]
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y cyngor yn Nolgellau ar 31 Ionawr o dan gadeiryddiaeth dros dro'r cynghorydd Samuel Pope QC, Dyffryn. Roedd y cynghorydd Pope yn ŵr di-gymraeg a chododd nyth cacwn ar ei ben yn syth, trwy farnu mae unig iaith y Cyngor byddai'r Saesneg. Yng nghyfarfod 28 Chwefror 1889 yn y Bala, penodwyd Dr Edward Jones, Dolgellau yn gadeirydd swyddogol cyntaf y cyngor, newidiodd Jones y rheol iaith gan ddweud bod hawl siarad y ddwy cyn belled a bod crynodeb o'r hyn a ddywedwyd mewn un iaith yn cael ei rhoi yn yr iaith arall; y cadeirydd byddai'n gyfrifol am ddarparu'r crynodeb dros gynghorwyr uniaith yn y naill neu'r llall.[14] Cyfarfodydd trefniadol oedd y ddau gyfarfod cyntaf, ffurfiwyd y cyngor fel corff statudol ar 1 Ebrill 1889.[15]
Yn ogystal â'r 42 cynghorydd, roedd y cyngor yn cynnwys 14 henadur sirol. Detholwyd yr henaduriaid gan y cyngor, a buont yn gwasanaethu am dymor o chwe blynedd. Yn dilyn dethol yr 14 henaduriaid cychwynnol, byddai hanner y fainc henadurol yn cael ei ethol bob tair blynedd. Wedi'r etholiadau cychwynnol, roedd 14 o lefydd gwag i Henaduriaid a phenodwyd yr Henaduriaid canlynol gan y cyngor newydd ei ethol: [1]
Dim ond tri o'r rhai a etholwyd oedd yn aelodau o'r cyngor. [16]
John Cadwaladr, Rhyddfrydwr (bu farw ym mis Gorffennaf 1889 [17]. Dewiswyd E. Parry Jones, Cefnymaes, Blaenau Ffestiniog, yn henadur, yn ei le [18])
Edward Griffith, Rhyddfrydwr (ymgeisydd wedi'i drechu yn Llanfachreth)
Richard Jones, Plasyracre, Rhyddfrydwr (cynghorydd etholedig yn y Bala, bu farw o fewn dyddiau i'r cyfarfod cyntaf o'r cyngor[19] detholwyd y Cyrnol Edward Evans Lloyd, Moel y Garnedd, Y Bala yn ei le.[15])
Bu dau isetholiad i ddewis cynghorwyr i gymryd lle'r cynghorwyr a dyrchafwyd i fainc yr Henaduriaid ac achoswyd dau isetholiad oherwydd marwolaeth aelodau.
Bu farw Richard Jones, a etholwyd yn henadur, dridiau ar ôl y cyfarfod cyntaf o'r cyngor pan gafodd ei godi i fainc yr henaduriaid.[22] Collodd y Blaid Ryddfrydol y sedd i Edward Watkin, asiant tir, Rhiwlas, ymgeisydd annibynnol, yn rhannol oherwydd bod rhai aelodau o enwad yr Annibynwyr yn flin bod y Blaid Ryddfrydol yn rhoi gormod o ffafriaeth i Fethodistiaid Calfinaidd wrth ddewis ymgeiswyr.[2]
Etholwyd David Davies, Tafolgraig, Aberdyfi, (Rhyddfrydwr) yn ddiwrthwynebiad, fel olynydd i'r diweddar Barch Griffith Evans ar gyfer ward Ardal Wledig Tywyn[23]