W. E. Oakeley

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Perchennog Chwarel yr Oakeley ym Mlaenau Ffestiniog oedd William Edward Oakeley (1 Awst 1828–1 Chwefror 1912).[1]

Roedd yn fab i William Oakeley (1798–1834) a Mary Maria Miles, ac yn ŵyr i Syr Charles Oakeley, Barwnig 1af Amwythig. Etifeddodd ystad Tanybwlch yn 1868 gan gweddw cefnder ei dad gan y bu farw'n ddi blant.[2]

Addysgwyd ef yn Eton a Rhydychen, cyn priodi Mary Russell ym 1860. Cliffe House, Atherstone Swydd Gaerlŷr oedd ei prif gartref. Yn ystod cyfrifiad 1881, roedd yn byw yno gyda'i wraig a'i ferch ac athrawes a 12 gwas/morwyn, disgrifwyd ei alwedigaeth ar y pryd fel perchennog tiriog.[3]

Bu farw ar 1 Chwefror 1912, a claddwyd ar 6 Chwefror. Datganwyd ei farwolaeth yn The Times, a chwe diwrnod yn ddiweddarach, cyhoeddwyd disgrifiad o'r orymdaith. Cludwyd ei arch o'i gartref yn Cliffe House i Flaenau Ffestiniog ar y rheilffordd ac yna ar lori i fynwent eglwys Sant Twrog ym Maentwrog. Dilynwyd y lori gan ganoedd o weithwyr o Chwarel yr Oakeley.[4][5]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Manylion coeden teulu W.E. Oakeley
  2.  Perchnogion Chwareli Llechi - Chwareli Meirionnydd. Llechwefan.
  3. Cyfrifiad 1881 - Cliff House, Twycross, Leicester (RG11 3134/129 Page 2) Occupation: Landed Proprietor, gyda'i wraig, ei ferch, athrawes a 12 gwas/morwyn
  4. The Times, 5 Chwefror 1912:
    "Oakeley. - On the 1st. Feb., at Cliff House, near Atherstone, William Edward Oakeley, in his 84th year. No flowers."
  5. The Times, 7 Chwefror 1912:
    "The funeral of Mr William Oakeley, of the Plas, Tan-y-Bwlch, Merionethshire, and Cliffe House, Atherstone, took place yesterday at St Twrog Churchyard, Maentwrog. The coffin was taken from Atherstone to Festiniog by rail, and thence to Maentwrog on a lorry, which was followed by hundreds of workmen from the Oakeley quarries."


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.