Cornchwiglen benllwyd

Oddi ar Wicipedia
Cornchwiglen benllwyd
Vanellus cinereus

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Charadriidae
Genws: Vanellus[*]
Rhywogaeth: Vanellus cinereus
Enw deuenwol
Vanellus cinereus

Rhywogaeth o gornchwiglen sy'n bridio yng ngogledd-ddwyrain Tsieina a Japan yw'r gornchwiglen benllwyd (Vanellus cinereus). Mae poblogaeth y tir mawr yn gaeafu yng ngogledd De-ddwyrain Asia o ogledd-ddwyrain India i Cambodia. Mae poblogaeth Japan yn gaeafu, yn rhannol o leiaf, yn ne Honshū.

From Sundarbans National Park, West Bengal, India.

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Cornchwiglen benllwyd (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: cornchwiglod penllwyd) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Vanellus cinereus; yr enw Saesneg arno yw Grey-headed lapwing. Mae'n perthyn i deulu'r Cwtiaid (Lladin: Charadriidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1]

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn V. cinereus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Awstralia.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'r gornchwiglen benllwyd yn 34–37cm o hyd. Mae ganddo ben a gwddf llwyd, band llwyd llwyd tywyllach ar ei bron a bol gwyn. Mae'r cefn yn frown, y ffolen yn wyn a'r gynffon yn ddu. Mae hon yn rhywogaeth drawiadol wrth hedfan, gydag phlu primaidd duon, gwyn o dan adenydd ac adain uchaf y plu eilradd, a chudd adain uchaf brown.

Mae oedolion o'r ddau ryw yn cael eu plu yn yr un modd, ond mae'r ceiliogod ychydig yn fwy na'r ieir. Mae gan adar ifanc y darnau gwyn o blu arlliwiau llwyd, band bronnau llai amlwg, ac ymylon gwelw i'r rhan uchaf a phlu cudd yr adain. Mae galwad y gornchwiglen benllwyd yn chee-it miniog.

Y gornchwiglen benllwyd gyntaf i'w gweld yng ngwledydd Prydain ar 1 Mai 2023 yn Newton-by-the-Sea yn Northumberland.


Teulu[golygu | golygu cod]

Mae'r cornchwiglen benllwyd yn perthyn i deulu'r Cwtiaid (Lladin: Charadriidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Cornchwiglen Vanellus vanellus
Cornchwiglen adeinbigog Vanellus spinosus
Cornchwiglen adeinddu Vanellus melanopterus
Cornchwiglen dagellgoch Vanellus indicus
Cornchwiglen dagellog Jafa Vanellus macropterus
Cornchwiglen fronfraith Vanellus melanocephalus
Cornchwiglen fygydog Vanellus miles
Cornchwiglen goronog Vanellus coronatus
Cornchwiglen gynffonwen Vanellus leucurus
Cornchwiglen heidiol Vanellus gregarius
Cornchwiglen hirfys Vanellus crassirostris
Cornchwiglen labedog Vanellus albiceps
Cornchwiglen yr Andes Vanellus resplendens
Hutan gyddfgoch Oreopholus ruficollis
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Safonwyd yr enw Cornchwiglen benllwyd gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.