Cornchwiglen
| Cornchwiglen | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Charadriiformes |
| Teulu: | Charadridae |
| Genws: | Vanellus |
| Rhywogaeth: | V. vanellus |
| Enw deuenwol | |
| Vanellus vanellus (Linnaeus, 1758) |
|
Mae'r Gornchwiglen (Vanellus vanellus) yn aelod o deulu'r rhydyddion. Mae'n aderyn cyffredin trwy Ewrop a gogledd Asia.
Mae'r Gornchwiglen yn aderyn mudol yn y rhannau lle ceir gaeafau oer ac yn symud i'r de cyn belled a gogledd Affrica a gogledd India. Yng ngorllewin Ewrop nid yw'n mudo.
Gellir adnabod y Gornchwiglen yn hawdd. Mae'n aderyn du a gwyn, ond gyda lliw gwyrdd ar y cefn, ac mae plu hir ar y pen. Mae rhwng 28 a 31cm o hyd a 67-72 cm ar draws yr adenydd. Yn y tymor nythu gellir clywed yr adar yn galw yn ddi-baid.
Mae'n nythu ar gaeau a lle bynnag y ceir tir agored gyda glaswellt heb fod yn rhy hir. gan ddodwy 3 neu 4 wy ar y llawr. Mae'r rhieni yn amddiffyn y nyth ac yn ddiweddarach y cywion rhag unrhyw aderyn neu anifail a allai fod yn berygl iddynt. Mewn llawer o wledydd, yn cynnwys Cymru, mae'r nifer o Gornchwiglod sy'n nythu wedi gostwng oherwydd fod dulliau ffermio dwys yn golygu fod llai o leoedd addas iddynt nythu. Yn y gaeaf mae niferoedd sylweddol o adar o wledydd eraill yn symud i mewn, ac weithiau gellir gweld heidiau o filoedd ar rannau mwdlyd o lan y môr neu ar gaeau. Eu prif fwyd yw pryfed o wahanol fathau.