Bodorgan
Oddi ar Wicipedia
Cymuned yng ngorllewin Ynys Môn yw Bodorgan. Mae'n cynnwys pentrefi Malltraeth, Llangadwaladr, Trefdraeth a Hermon.
Prin y gellir galw Bodorgan ei hun yn bentref; ei brif nodwedd yw Plas Bodorgan, ac mae cyfran helaeth o'r tir yn yr ardal yn perthyn i ystad Bodorgan. Arferai teulu Meyrick, Bodorgan, fod yn ddylanwadol iawn yn y cylch.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 900.
[golygu] Enwogion
- Rowland Meyrick, esgob Bangor (1559-1565)
Mae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i: