Bradley Manning

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bradley Manning yn 2009

Milwr Americanaidd o dras Cymreig yw Bradley E. Manning (ganed 17 Rhagfyr 1987), a gyhuddwyd gan lywodraeth yr Unol Daleithiau o ryddhau dros 250,000 o geblau a dogfennau diplomatig Americanaidd i WikiLeaks. Honir ei fod yn gyfrifol am ryddhau'r fideo i WikiLeaks o filwyr Americanaidd mewn hofrenydd yn lladd 11 o sifiliaid ym Maghdad, gan cynnwys dau newyddiadurwr Reuters. Cafodd ei ddedfrydu i 35 mlynedd o garchar gan lys milwrol yn Awst 2013. Ar ôl y ddedfryd, cyhoedodd ei fod yn fenyw bellach a'i fod am gael ei adnabod o hynny ymlaen fel Chelsea Manning.

Cefndir yr achos[golygu]

Roedd Bradley yn wynebu hyd at 52 mlynedd yn y carchar am ryddhau'r dogfennau "Cablegate". Roedd rhai pobl amlwg yn yr Unol Daleithiau wedi galw am ei ddienyddio. Mae Julian Assange, prif olygydd WikiLeaks, wedi disgrifio Bradley fel "arwr heb ei ail" ("unparalleled hero").[1]

Yn 2011 ac eto yn 2012, cafodd ei enwebu am Wobr Heddwch Nobel, a hynny gan Oklahoma Center for Conscience and Peace Research a thri aelod seneddol o Ynys yr Iâ. Ysgrifennodd Graham Nash a James Raymond gân i'w gefnogi; teitl y gân oedd geiriau cyfreithiwr Manning pan ofynwyd iddo sut oedd ei iechyd: "Almost Gone."[2]

Bywgraffiad[golygu]

Protest (Ionawr 2012) yn Frankfurt yn erbyn ei garcharu.

Ganed Manning a'i chwaer hŷn yn Crescent, Oklahoma, Unol Daleithiau America, yn blant i Gymraes, Susan Fox, ac Americanwr o Oklahoma, Brian Manning.[3] Roedd ei dad wedi bod yn Llynges yr Unol Daleithiau am bum mlynedd, ac wedi cyfarfod â mam Manning pan oedd wedi ei leoli yn Cawdor Barracks. Magwyd Manning yn Crescent, ble bu ei dad yn gweithio fel hreolwr Technoleg Gwybodaeth ar gyfer asiantaeth rhentu ceir. Roedd yn fychan am ei oedran, a chyrrhaeddodd ond 5"2" fel oedolyn, gan bwyso 105 pwys (47.6 kg).[4] Roedd yn dda am chwarae'r sacsoffôn, gwyddoniaeth a gemau cyfrifuadurol, a hyd yn oed pan oedd dal yn yr ysgol elfennol, roedd eisiau ymuno â'r fyddin. Dywedodd un o'i athrawon ei fod yn ddeallus a hunandybus, ond nid oedd fyth mewn trafferth. Roedd yn un o'r ychydig yn ei gymuned a wrthododd grefydd yn agored; ysgrifennodd David Leigh a Luke Harding y buasai Manning yn gwrthod gwneud gwaith cartref ar sail y Beibl, ac na fyddai'n adrodd y rhannau ynnu o'r Pledge of Allegiance a fyddai'n cyfeirio at dduw. Dywedont hefyd fod tad Manning yn llym iawn, ac efallai bod hyn wedi cyfrannu at ei fewndroëdigaeth a dod yn encilgar, dwysaodd hyn pan oedd yn 13 wrth iddo ddechrau gwestiynnu ei rywioldeb.[5]

Stryd Fawr, Hwlffordd, lle mynychodd Manning yr ysgol uwchradd.

Roedd mam Manning yn ei chanfod yn anodd ymaddasu yn yr Unol Daleithiau yn ôl un cymydog, ac roedd ei dad i ffwrdd yn aml, felly roedd yn rhaid iddo edrych ar ôl ei hun am y rhan helaeth o'r amser.[6] Dychwelodd i Gymru gyda'i fam, wedi i'w rieni ysgaru pan oedd yn 13 oed. Astudiodd am ei TGAU yn Ysgol Tasker Milward yn Hwlffordd, Sir Benfro.[1] Daeth i'w adnabod yno am fod â agwedd, a treulio ei oriau cinio yng ngwlb cyfrifiaduron yr ysgol yn adeiladu gwefan ei hun.[5][7] Dywedodd ei gyd-ddisgybl Tom Dyer, y byddai Manning yn lleisio ei farn os oedd yn anghytuno â unrhywbeth, ac fe arweiniodd hyn at rai ffraeon gyda'i athrawon.[8] Cafodd Manning ei fwlio am fod yn Americanwr, yr unig un yn yr ysgol, ac byddai'r disgyblion eraill yn dynwared ei acen a'i ddullweddau.[5] Cafodd ei dargedu hefyd am fod yn ferchetaidd; er y gwyddai ei ffrindiau ysgol yn Oklahoma ei fod yn hoyw, nid oedd yn agored am hyn yn yr ysgol yng Nghymru.

Ymunodd â Byddin yr Unol Daleithiau fel swyddog gwybodaeth. Gwasanaethodd yn Irac. Tra yno, cwynai ei fod yn cael ei fwlio a'i boenydu am ei fod yn hoyw. Cafodd ei arestio ym mis Gorffennaf 2010 am ryddhau gwybodaeth gyfrinachol: er nad oes cadarnhad swyddogol eto, credir mai'r dogfennau "Cablegate" oedd y dogfennau hynny. Mae'n cael ei ddal yn un o wersylloedd y Marines Americanaidd yn Virginia. Wedi clywed iddo gael ei arestio, hedfanodd ei fam i UDA o Gymru ond gwrthododd y Fyddin Americanaidd ganiatâd iddi ymweld ag ef yn y carchar milwrol.[1]

Chelsea Manning mural.jpg

Ar 19 Awst 2012 gwnaeth Julian Assange ddatganiad cyhoeddus o gefnogaeth i Bradley Manning, tra roedd yn gaeth yn llysgenhadaeth Ecwador gan ddweud "Ddydd Mercher, treuliodd Bradley Manning ei 815fed diwrnod dan glo heb achos llys. Yr uchafswm cyfreithiol yw 120 o ddyddiau. Mae yna undod yn y gorthrwm hwn." [9]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2  Welsh schoolboy at the centre of Wikileaks row (5 Rhagfyr 2010).
  2. Gwobr Heddwch Nobel:
  3.  Steve Fishman (3 Gorffennaf 2011). Bradley Manning’s Army of One.
  4.  Michael Kirkland (13 Mawrth 2011). Under the U.S. Supreme Court: Bradley Manning, WikiLeaks martyr?. UPI.
  5. 5.0 5.1 5.2 David Leigh a Luke Harding (2011). Wikileaks: Inside Julian Assange's War on Secrecy. Guardian Books, tud. 20–24
  6.  Ginger Thompson (8 Awst 2010). Early Struggles of Soldier Charged in Leak Case. The New York Times.
  7.  Robert Booth, Heather Brooke a Steve Morris (30 Tachwedd 2010). WikiLeaks cables: Bradley Manning faces 52 years in jail. The Guardian.
  8.  Wikileaks: Bradley Manning 'set up own Facebook'. Channel 4 News (1 Rhagfyr 2010).
  9. http://www.bbc.co.uk/newyddion/19312713/ Gwefan Newyddion BBC

Dolenni allanol[golygu]