Edward Snowden

Oddi ar Wicipedia
Edward Snowden
FfugenwTheTrueHOOHA, CITIZENFOUR, VERAX, John Dobbertin Edit this on Wikidata
GanwydEdward Joseph Snowden Edit this on Wikidata
21 Mehefin 1983 Edit this on Wikidata
Elizabeth City Edit this on Wikidata
Man preswylWilmington, Gogledd Carolina, Ellicott City, Waipahu, Genefa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Rwsia Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgweinyddwr systemau, swyddog cudd-wybodaeth, security guard, Canu cloch, person gwrthwynebol, gwyddonydd cyfrifiadurol, intelligence analyst Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Asiantaeth Diogelwch Cenedlaethol
  • Booz Allen Hamilton
  • Dell Inc.
  • Freedom of the Press Foundation
  • Prifysgol Maryland, College Park
  • CIA Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadDaniel Ellsberg Edit this on Wikidata
TadLonnie Glenn Snowden, Jr. Edit this on Wikidata
MamElizabeth Snowden Edit this on Wikidata
PriodLindsay Mills Edit this on Wikidata
Gwobr/auSam Adams Award, Fritz Bauer Prize, Ridenhour Truth-Telling Prize, Gwobr 'Right Livelihood', Stuttgart Peace Prize, Carl-von-Ossietzky-Medaille, Whistleblower Prize, Bjørnson Prize, Ossietzky Prize, The Glass of Reason, SUMA Award, Bert-Donnepp-Preis Edit this on Wikidata
llofnod

Cyn-gontractwr technegol i'r National Security Agency (NSA), sef un o adrannau diogelwch Unol Daleithiau America, yw Edward Joseph Snowden (ganwyd 21 Mehefin 1983). Gweithiodd hefyd i'r Central Intelligence Agency (CIA). Yng ngwanwyn 2013 rhyddhaodd wybodaeth am rai o brif raglenni ysbïo drwy wyliadwriaeth dorfol yr Unol Daleithiau a Phrydain i'r wasg.[1][2]

Rhyddhaod yr wybodaeth yn wreiddiol i Glenn Greenwald o The Guardian yn Llundain, a hynny yng ngwanwyn 2013 tra roedd yn gweithio fel "infrastructure analyst" yng ngwmni Booz Allen Hamilton a oedd dan gontract i NSA. Yn ei dro, cyhoeddodd The Guardian sawl exposé rhwng Mehefin a Gorffennaf 2013 a oedd yn dinoethi rhaglenni megis PRISM, a oedd yn clustfeinio ac yn recordio gwybodaeth ddigidol ar systemau ffôn a Tempora sef cynllun gwylio a chofnodi gwybodaeth ar y we. Dywedodd Snowden fod rhyddhau'r wybodaeth fel hyn yn ymgais i "hysbysu'r cyhoedd o'r hyn sy'n digwydd yn eu henw nhw a'r hyn sy'n digwydd yn eu herbyn.[2][3][4] Dywedir fod y weithred hon o ryddhau gwybodaeth y mwyaf arwyddocaol o'i bath yn hanes yr NSA.[5]

Ar 4 Mehefin 2013, cafodd ei gyhuddo gan yr erlyniad ffederal o espionage a lladrata eiddo'r llywodraeth.[6] Ar 8 Gorffennaf 2013, cafodd ei anrhydeddu gan grwp o gyn-swyddogion y CIA gyda Gwobr Sam Adams.[7]

Wedi Canu'r Gloch[golygu | golygu cod]

Ers cyhoeddi'r storiau, mae Snowden wedi bod ar ffo. Ar 20 a 21 Mehefin dywedodd cynrychiolydd WikiLeaks fod jet siartredig wedi'i baratoi i'w gludo i Wlad yr Iâ,[8] a chyhoeddodd sefydlydd WikiLeaks ei fod yn cynnal trafodaethau rhwng Snowden a Gwlad yr Iâ, gyda'r posibilrwydd o'i lochesu yno.[9]

Logo PRISM

Ym Mai 2013, caniataodd yr awdurdodau iddo adael ei waith gyda NSA yn er mwyn iddo gael triniaeth am ei epilepsi.[4] Ar 20 Mai hedfanodd i Hong Cong,[10][11] ble roedd pan ymddangosodd yr erthyglau cyntaf yn y Guardian.[10][12]

Eglurodd ei weithredoedd mewn cyfweliad gan ddweud: "I don't want to live in a society that does these sort of things [surveillance on its citizens]... I do not want to live in a world where everything I do and say is recorded."[13] Cyhoeddodd ei enw yn y Guardian ar 9 Mehefin gan ddweud: "I have no intention of hiding who I am because I know I have done nothing wrong."[4] Ychwanegodd iddo wneud hyn er mwyn gwarchod ei gydweithwyr a fyddai'n cael eu herlyn mewn witch hunt posibl am y whistleblower.[14]

Cais am loches[golygu | golygu cod]

Ar 1 Gorffennaf, datgelodd WikiLeaks fod Snowdon wedi gofyn am loches gwleidyddol i 20 o wledydd.[15] Dywedwyd fod llywodraeth yr UDA wedi ceisio rhoi pwysau ar y gwledydd hyn i beidio a gwneud hynny.[16]

Ysgythriad pren o Edward Snowden.

Ar unwaith cyhoeddodd arlywydd Rwsia, Vladimir Putin wahoddiad i Snowden lochesu ond y byddai'n rhaid i Snowden beidio rhyddhau rhagor o wybodaeth a fydda'n "niweidio ein partneriaid Americanaidd" pe bai am loches.[17][18] Cyhoeddodd Snowden ei fod yn tynnu'r cais am loches yn ôl oherwydd yr amodau hyn.[15][19]

Cynigiwyd lloches iddo gan Nicaragwa,[20] Feneswela,[21] a Bolifia.[22]

Ymateb Ffindir, yr Almaen, India, Gwlad Pwyl, Norwy, yr Eidal ac Awstria oedd na allant gynnig lloches oni bai fod y cais yn cael ei wneud oddi fewn i ffiniau eu gwlad.[15][23][24].

Ar 23 Mehefin 2013, glaniodd yn un o feysydd awyrennau Mosgo, sef Sheremetevo.[25] Ar 25 Mehefin 2013, dywedodd Vladimir Putin fod "glaniad Snowden yn Mosgo yn newyddion annisgwyl iddo,"[26], nad oedd Snowden wedi troseddu ar dir Rwsia,[27], ei fod yn rhydd i adael unrhyw adeg ac y byddai hynny'n beth da.[28]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gellman, Barton; Markon, Jerry (9 Mehefin 2013). "Edward Snowden says motive behind leaks was to expose 'surveillance state'". The Washington Post. Cyrchwyd 10 Mehefin 2013.
  2. 2.0 2.1 Gellman, Barton; Blake, Aaron; Miller, Greg (9 Mehefin 2013). "Edward Snowden comes forward as source of NSA leaks". The Washington Post. Cyrchwyd 10 Mehefin 2013.
  3. Smith, Matt (9 Mehefin 2013). "NSA leaker comes forward, warns of agency's 'existential threat'". CNN. Cyrchwyd 10 Mehefin 2013.
  4. 4.0 4.1 4.2 Greenwald, Glenn; MacAskill, Ewen; Poitras, Laura (9 Mehefin 2013). "Edward Snowden: the whistleblower behind the NSA surveillance revelations". The Guardian. London. Cyrchwyd 9 Mehefin 2013.
  5. Shane, Scott; Somaiya, Ravi (June 16, 2013). "New Leak Indicates U.S. and Britain Eavesdropped at '09 World Conferences". The New York Times.
  6. Finn, Peter; Horwitz, Sari (21 Mehefin 2013). "U.S. charges Snowden with espionage". The Washington Post. Cyrchwyd 21 Mehefin 2013.
  7. "Snowden Honored by Ex-Intel Officials". Consortiumnews. 8 Gorffennaf 2013. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2013.
  8. "WikiLeaks plane 'ready' to bring Snowden to Iceland". South China Morning Post. Hong Cong. Agence France-Presse. June 21, 2013. Cyrchwyd 21 Mehefin 2013.
  9. Ngo, Jennifer (21 Mehefin 2013). "Julian Assange intervenes to help Snowden get to Iceland". South China Morning Post. Agence France-Presse. Cyrchwyd 21 Mehefin 2013. Teitl yr erthygl a gyhoeddwyd: "Assange intervenes over Iceland option".
  10. 10.0 10.1 Smith, Matt; Pearson, Michael (10 Mehefin 2013). "NSA leaker holed up in Hong Kong hotel, running low on cash". CNN. Cyrchwyd 10 Mehefin 2013.
  11. "US leaker Edward Snowden 'defending liberty'". BBC News. 10 Mehefin 2013.
  12. Yang, Jia Lynn (10 Mehefin 2013). "Edward Snowden faces strong extradition treaty if he remains in Hong Kong". The Washington Post. Cyrchwyd 10 Mehefin 2013.
  13. NSA whistleblower Edward Snowden: 'I don't want to live in a society that does these sort of things' (video). The Guardian. London. 9 June 2013.
  14. MacAskill, Ewen (12 Mehefin 2013). "Edward Snowden: how the spy story of the age leaked out". The Guardian. London. Cyrchwyd 12 Mehefin 2013.
  15. 15.0 15.1 15.2 "Edward Snowden seeks asylum in 20 nations, but gets no immediate takers" Archifwyd 2013-07-11 yn y Peiriant Wayback.. CBS News. Associated Press. 2 Gorffennaf 2013. Adalwyd 4 Gorffennaf, 2013.
  16. Gladstone, Rick (July 1, 2013). "Snowden Is Said to Claim U.S. Is Blocking Asylum Bids". The New York Times.
  17. Pearson, Michael; Smith, Matt; Mullen, Jethro (2 Gorffennaf 2013). "Snowden's asylum options dwindle". CNN. Cyrchwyd 3 Gorffennaf 2013.
  18. "Vladimir Putin: Edward Snowden must stop leaking secrets to stay in Russia". Politico. Associated Press. 1 Gorffennaf 2013.
  19. Elder, Miriam (2 Gorffennaf 2013). "Edward Snowden withdraws Russian asylum request". The Guardian. London.
  20. "Ortega Offers Snowden Asylum in Nicaragua if Circumstances Permit". Nicaragua Dispatch. Adalwyd 5 Gorffennaf 2013.
  21. "Venezuela's Maduro offers asylum to U.S. fugitive Snowden". Yahoo News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-09. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2013.
  22. "Morales daría asilo a Snowden en "protesta" contra Europa". Emol. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2013.
  23. Österreichische Regierung sieht Formalfehler bei Asylantrag von Snowden
  24. ""Poland, India, Brazil snub Snowden asylum application"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-22. Cyrchwyd 2013-07-10.
  25. Самолет с Эдвардом Сноуденом приземлился в "Шереметьево" NEWSru, 23 Mehefin 2013.
  26. "Путин признал: Сноуден - в Москве. И посоветовал США не "стричь поросенка"". NEWSru. 25 Mehefin 2013.
  27. "Putin: Snowden still in Moscow airport transit zone, won't be extradited". Russia Today. 25 Mehefin 2013. Cyrchwyd 25 Mehefin 2013.
  28. "Putin says Snowden at Russian airport, signals no extradition". Reuters. 25 Mehefin 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-29. Cyrchwyd 2013-07-10.


Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.