Sgwrs:Edward Snowden

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Chwythu'r budrelli[golygu cod]

Sut buasech chi'n cyfieithu "whistleblower" i'r Gymraeg? Beth am 'Chwythwr bib'? Mae angen categori. Anatiomaros (sgwrs) 21:30, 9 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]

"Canu cloch" oedd term Adam, felly: clochydd! ond dwn i'm o ble gafodd e! Gollyngwr cathod?!! Cwdyn cathod! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:00, 9 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Chwythwr chwiban? Llywelyn2000 (sgwrs) 00:42, 23 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Newydd ddod ar draws "“chwythu’r chwiban” " ar wefan Golwg 360 [1] a Chyngor Sir Gwynedd! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:45, 23 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Diddorol! Dwi'n meddwl bydd hynny'n ddigon o sail i ddangos bathu'r term a'i ddefnyddio'n weddol eang. 'Categori:Chwythwyr chwiban' (pobl) a 'Chwythu'r chwiban' (prif gat /cyffredinol) felly? Ffynonellau eraill, tra swyddogol: Cynulliad Cenedlaethol Cymru "...o’r hyn yr ydych yn mynd i’w wneud i annog chwythwyr chwiban ac i ddiogelu chwythwyr chwiban sy’n hysbysu am bethau y maent yn eu gweld"; The Pensions Regulator "Rydyn ni hefyd yn disgwyl derbyn adroddiadau gan ‘chwythwyr chwiban’am doriadau cyfraith...." Anatiomaros (sgwrs) 16:01, 23 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Sa' i'n cofio'n union o le cefais "canu cloch" (creais erthygl canu cloch hefyd), ond mae Cyngor Wrecsam a'r papur bro Llais y Derwent yn defnyddio'r term. Os "chwythu chwiban" sy'n fwy cyffredin ewch ati i'w newid. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 16:22, 23 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Sori Adam, doeddwn i ddim yn gwybod am dy erthygl! Does dim byd o'i le efo'r term 'canu cloch' ond bydd rhaid penderfynu rhwng "yr hen a'r newydd" fel petai.
O blaid 'canu cloch': mae'n derm cyfarwydd (i rai) yn barod. Yn ei erbyn: 1. Mae ganddo ystyr ehangach hefyd; 2. Mae gan y gair 'clochydd(ion)' prif ystyr amlwg, (sef 'clochydd'!).
O blaid 'chwythu'r chwiban': mae'n cael ei ddefnyddio'n reit eang, mae'n ymddangos. yn ei erbyn: mae'n gyfieithiad llythrennol o'r term Saesneg.
Ar y cyfan dwi o blaid y term newydd a hynny am y rhesymau a nodir uchod (yn enwedig y ffaith mai "clochydd ydy clochydd"), ond dwi'n agored i gael fy mherswadio fel arall. Anatiomaros (sgwrs) 19:09, 23 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
O'r ddau, dw i am fynd am "chwythu’r chwiban" a "chwythwr chwiban"; yn bennaf gan mai dyna mae'r Llywodraeth a Chyngor Sir Gwynedd yn ei ddefnyddio. Mae'r gyseinnedd hefyd yn apelio yn y ddau derm! Llywelyn2000 (sgwrs) 20:13, 23 Hydref 2013 (UTC)[ateb]