Cablegate

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

"Cablegate" yw'r enw poblogaidd a ddefnyddir yn eang i ddisgrifio cyhoeddi dros 250,000 o ddogfennau diplomatig Americanaidd gan y wefan datgelu gwybodaeth WikiLeaks. Dechreuwyd cyhoeddi'r dogfennau hyn gan WikiLeaks ar 28 Tachwedd 2010, a hynny mewn cydweithrediad â sawl papur newydd, yn cynnwys El País (Sbaen), Le Monde (Ffrainc), Der Spiegel (Yr Almaen), The Guardian (DU), a'r New York Times (UDA). Mae'r enw "Cablegate" yn adlais o "Watergate", y sgandal a ddaeth ag arlywyddiaeth Richard Nixon i ben.

Cyhoeddi'r dogfennau[golygu]

Ar 22 Tachwedd 2010, cyhoeddwyd ar drydar Wikileaks y byddai'r datguddiad nesaf yn "7 gwaith maint yr Iraq War Logs." Ar 28 Tachwedd, cyhoeddodd Wikileaks fod ei gwefan yn dioddef "Distributed Denial-of-service attack" anferth[1], ond gaddodd y byddai'n dal i ryddhau gasgliad mawr o geblau a dogfennau diplomatig o eiddo llywodraeth yr Unol Daleithiau trwy gytundeb rhagllaw gyda'r papurau newydd El País, Le Monde, Der Spiegel, The Guardian a'r New York Times. Yn fuan wedyn, cyhoeddodd y Guardian rhai o'r dogfennau hynny, yn cynnwys un lle mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau Hillary Clinton yn gorchymyn i ddiplomyddion Americanaidd gael manylion cardiau credyd, cyfrineiriau ebost a gwybodaeth bersonol arall am gynrychiolwyr Ffrainc, y DU, Rwsia a Tsieina yng Nghyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, yn ogystal â gwybodaeth gyffelyb am staff blaenllaw y CU ei hun, yn cynnwys yr Ysgrifenydd Cyffredinol. Datgelwyd hefyd fod cynghreiriaid Arabaidd yr Unol Daleithiau yn Arabia, yn cynnwys brenin Saudi Arabia, wedi galw ar America i ymosod ar Iran, bod llywodraeth Gweriniaeth Pobl Tsieina yn cymryd rhan mewn hacio cyfrifiadurau, a bod taflegrau Americanaidd yn taro targedau "terfysgol" yn Yemen er bod llywodraeth y wlad honno, mewn cytundeb gyda'r Americanwyr, yn dweud yn gyhoeddus mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau hynny.[2]

Ymateb[golygu]

Gwrthdystiad dros WikiLeaks tu allan i Lysgenhadaeth y DU ym Madrid, Sbaen, ar 11 Rhagfyr 2010.

Mewn ymateb i'r datgeliadau, galwodd un cyngreswr Americanaidd, Peter T. King am enwi WikiLeaks yn "sefydliad terfysgol". Dywedodd Hilary Clinton fod y datgeliadau yn "ymosodiad ar y gymuned ryngwladol". Cafwyd bygythiadau niferus i lofruddio Julian Assange, aelodau o'i deulu, cyfreithwyr a staff WikiLeaks.[3] Rhoddodd y seneddwr Americanaidd John Ensign symudiad o flaen y senedd yn ceisio cyhoeddi WikiLeaks yn "fygythiad trawswladol" ("transnational threat") a chafwyd galwadau i asasineiddio Assange gan Marc Thiessen yn y Washington Post, Bill O'Reilly (sy'n gweithio i Fox News) ac eraill.[3]

Ar 5 Rhagfyr cyhuddodd yr International Federation of Journalists lywodraeth UDA o "ymosod ar ryddid mynegiant". Dywedodd Aidan White, Ysgrifenydd Cyffrdinol yr IJF, ei fod yn "annerbyniol i geisio nacau pobl yr hawl i wybod." Ychwanegodd "Mae ymateb yr Unol Daleithiau yn orffwyll a pheryglus am ei fod yn mynd yn erbyn egwyddorion sylfaenol rhyddid mynegiant a democratiaeth."[4] Mewn erthygl olygyddol, galwodd The Hindu, un o brif bapurau newyddion India, bolisi'r Unol Daleithiau tuag at WikiLeaks yn "McCarthyaeth ddigidol" a "brawychus o ormesol" (shockingly repressive).[5]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Wikileaks 'hacked ahead of secret US document release'" BBC News, 28 Tachwedd.
  2. "US diplomats spied on UN leadership". The Guardian. [1]. 2010-11-29.
  3. 3.0 3.1 Cyfweliad gyda Julian Assange, El País, 05.12.2010.
  4. "IFJ Condemns United States "Desperate and Dangerous" Backlash over WikiLeaks, gwefan IFJ, 05.12.2010. Testun Saesneg: "It is unacceptable to try to deny people the right to know," said Aidan White, IFJ General Secretary. "These revelations may be embarrassing in their detail, but they also expose corruption and double-dealing in public life that is worthy of public scrutiny. The response of the United States is desperate and dangerous because it goes against fundamental principles of free speech and democracy."
  5. "Digital McCarthyism", The Hindu, 05.12.2010.

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Sylwer: efallai na fydd rhai o'r dolenni hyn yn gweithio.

Society.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.