Jeriwsalem
Prifddinas de facto gwladwriaeth Israel yw Jeriwsalem neu Jerwsalem[1][2] (hefyd Caersalem yn Gymraeg; Jerusalem yn Saesneg; Yerushaláyim, ירושליםyn Hebraeg Diweddar, ירושלם yn Hebraeg clasurol; al-Quds, القدس, yn Arabeg). Mae hi'n dref hynafol o bwysigrwydd crefyddol arbennig yn hanes Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam. Er bod yr Israeliaid yn hawlio Jeriwsalem yn brifddinas Israel, yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae'n ddinas a feddianwyd gan yr Israeliaid yn anghyfreithlon. Mewn canlyniad nid yw'n cael ei chydnabod fel prifddinas Israel gan y mwyafrif llethol o wledydd y byd (gweler isod).
Cynnwys |
Daearyddiaeth [golygu]
Lleolir Jeriwsalem ar fryniau o uchder canolig yng nghanol Bryniau Jwdea, tua 30 km i'r gorllewin o lannau gogledd-orllewinol y Môr Marw.
Hanes [golygu]
Digwydd y cyfeiriadau cynharaf at Jeriwsalem yn llyfrau'r Hen Destament. Dywedir i Dafydd, ail frenin Israel, wneud y ddinas yn brifddinas ei deyrnas wedi iddo ei chipio oddi ar y Jebiwsiaid. Cipiodd Nebuchodnesar y ddinas a dygodd i ffwrdd y rhan fwyaf o'r trigolion yn gaethweision i Fabilon.
Gwelodd y ddinas sawl brwydr yn ystod y Croesgadau. Ffurfiwyd urdd Marchogion yr Ysbyty yno tua'r flwyddyn 1070.
Crefydd [golygu]
Cyfeirir yn aml at Jeriwsalem yn yr Hen Destament. Cododd Solomon ei deml enwog yno i ddiogelu Arch y Cyfamod. Ar fapiau canoloesol lleolir y ddinas yng nghanol y byd a chredid y byddai'r Ail Ddyfodiad yn digwydd yn Nyffryn Jehoshaphat yn ymyl y ddinas a Jersiwsalem Newydd yn cael ei chodi.
Mae'r Iddewon yn ystyried dinistr Teml Herod Fawr yn y flwyddyn 70 gan y Rhufeiniaid dan Titus yn drychineb cenedlaethol a gofir hyd heddiw. Mae'r cysegrfan Islamaidd, Mosg Al-Aqsa - a elwir hefyd y Gromen ar y Graig (yn gamarweiniol) - yn sefyll ar ei safle heddiw.
I'r Cristnogion mae Jeriwsalem yn ddinas sanctaidd oherwydd ei lle amlwg ym mywyd Iesu Grist; y lle pwysicaf a gysylltir ag ef yw Eglwys y Beddrod Sanctaidd ar y bryn gorllewinol lle honodd yr ymerodr Cwstennin fod bedd Crist i'w gael. Mae'r Via Dolorosa yn dilyn y llwybr a gerddwyd gan Grist o lys Pontius Pilate i Fryn Calfaria.
Y ddinas heddiw [golygu]
Heddiw mae tua 700,000 o bobl yn byw yn y ddinas ac mae'r amrywiaeth o genedlaethau, crefyddau a chymdeithas a geir yndi'n fawr iawn. Mae gan yr "Hen Ddinas", sydd yng nghanol y ddinas bresennol, fur o'i hamgylch. Rhennir y dref o gwmpas yr "Hen Ddinas" yn bedair ardal: un i'r Iddewon, un i'r Cristnogion, un i'r Armeniaid ac un arall i'r Mwslemiaid.
Tiriogaeth ddadleuol [golygu]
Mae anghytundeb am statws y ddinas. Mae hi ar y llinell cadoediad rhwng Israel a'r Lan Orllewinol y cytunwyd arni yn Cytundeb Cadoediad 1949, ond mae Israel yn rheoli'r holl ddinas ac yn ôl cyfraith Israel hi yw prifddinas y wlad. Felly mae llywodraeth Israel a llawer o sefydliadau Iddewig eraill yno. Mae Penderfyniad 242 y CU yn galw ar i Israel "dynnu allan o'r diriogaeth a feddianwyd," Penderfyniad 237 yn gwrthod yr ychanegiad o'r ddinas i Israel a Phenderfyniad 405 yn cadarnhau fod Jeriwsalem yn diriogaeth Balesteinaidd a feddianwyd. Mewn canlyniad nid yw'n cael ei chydnabod fel prifddinas Israel gan y mwyafrif llethol o wledydd y byd (lleolir llysgenhadaeth UDA yn Tel Aviv, er enghraifft).
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 94.
- ↑ Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 765 [Jerusalem].
Cysylltiadau allanol [golygu]
- (Hebraeg) Gwefan Swyddogol y Dinas