Mosg Al-Aqsa

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mosg Al-Aqsa gyda'r Mur Gorllewinol o'i flaen, yn Jeriwsalem
Y tu mewn i Fosg Al-Aqsa
Gweler hefyd al-Aqsa (gwahaniaethu).

Cysegrfan Islamaidd yn Hen Ddinas Jeriwsalem yw Mosg Al-Aqsa neu al-Aqsa (Arabeg: المسجد الاقصى, IPA /æl'mæsʒɪd æl'ɑqsˁɑ/, al-Masjid al-Aqsa sef "Y Mosg Pellaf"). Mae'r mosg ei hun yn rhan o'r al-Haram ash-Sharif neu Bryn y Deml (Temple Mount), sy'n lle cysegredig i Iddewon hefyd fel safle tybiedig Teml Jeriwsalem (Teml Solomon); cyfeirir at y mosg fel "Y Gromen ar y Graig" weithiau hefyd, er bod y term yn cael ei ddefnyddio yn fwy priodol fel enw am yr al-Haram ash-Sharif ei hun yn ogystal. Mae Mwslemiaid, yn enwedig y Mwslemiaid Sunni, yn ystyried mai al-Aqsa yw'r lle sanctaidd trydydd bwysicaf yn Islam; credant fod y Proffwyd Muhammad wedi cael ei gludo o'r Mosg Sanctaidd (Masjid al-Haram) ym Mecca i al-Aqsa yn Nhaith y Nos, fel y'i disgrifir yn y Coran. Yn ôl traddodiadau Islamig, roedd Muhammad a'i ddilynwyr yn gweddio i gyfeiriad al-Aqsa hyd y 17eg fis ar ôl y Hijra, pan newidwyd i weddio i gyfeiriad y Ka'aba ym Mecca.

Codwyd yr adeilad Islamig cyntaf ar y safle tua'r flwyddyn 685 ond mae'r rhan fwyaf o'r adeilad presennol yn dyddio o'r 11eg ganrif ymlaen. Codwyd math o gapel gweddi yno gan y califf Rashidun Umar tua 685 ond fe'i ailadeiladwyd a'i ehangu gan y califf Ummayad Abd al-Malik a'i orffen gan ei fab al-Walid yn 705. Dinistrwyd y mosg yn 746 a chafodd ei ailadeiladu gan y califf Abbasid al-Mansur yn 754, ac eto gan ei olynydd al-Mahdi yn 780. Dinistrwyd y rhan helaeth o al-Aqsa gan ddaeargryn arall yn 1033, ond yn 1035 cododd y califf Fatimid Ali az-Zahir y mosg sy'n sefyll heddiw. Cafywd nifer o ychwanegiadau ar ôl hynny. Pan gipwyd Jeriwsalem gan y Croesgadwyr yn 1099, cafodd y mosg ei ddefnyddio fel palas ac eglwys ganddynt, ond cafodd ei adfer fel mosg pan gipiodd Saladin Jeriwsalem. Ychwanegwyd i'r mosg dros y canrifoedd ar ôl hynny. Heddiw, er bod Jeriwsalem dan awdurdod yr Israeliaid, mae'r mosg ei yn aros dan weinyddiaeth y waqf (math o gyngor Islamaidd) Palesteinaidd.

Dan reolau diogelwch presennol llywodraeth Israel, dim ond Palesteiniaid ac Arabiaid dros 50 oed sy'n medru fynd i al-Aqsa, ac mae'r penderfyniad hynny wedi ychwanegu at anniddigrwydd Mwslemiaid yn Israel ei hun ac ar y Lan Orllewinol.

Islam template b.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Flag of Palestine.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Balesteina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato