Herod Fawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Model o Deml Herod (Amgueddfa Israel)

Roedd Herod Fawr neu Herod I (c. 74 CC – c. 4 CC) yn frenin trwy ganiatad Rhufain ar dalaith Rufeinig Iudaea (Judaea). Mae'r rhan fwyaf o'r wybodaeth amdano yn dod o weithiau yr hanesydd Iddewig Josephus, ond mae hefyd sôn amdano yn y Beibl yn yr hanes am eni Iesu Grist, lle yn ol Efengyl Matthew mae'n gorchymyn lladd plant ieuanc Bethlehem a'r cylch.

Roedd Herod o deulu Idumaeaidd. Erbyn y ei gyfnod ef roedd y rhan fwyaf o'r Idumeaid (disgynyddion yr hen Edomiaid wedi troi at Iddewiaeth, ac roedd Herod yn ei ystyried ei hun yn Iddew. Ail-adeiladodd yr Ail Deml yn Jeriwsalem ar raddfa fawr, a chyfeirir at y deml yma weithiau fel "Teml Herod". Yn ôl Josephus, adeiladodd gaer ym Masada rhwng 37 a 31 CC. fel man diogel iddo ef a'i deulu pe bai gwrthryfel yn ei erbyn. Cyfeiria Josephus hefyd at y bont dŵr a godwyd yn Latakia gan Herod Fawr.

Wedi marwolaeth Herod, rhannwyd ei deyrnas rhwng tri o'i feibion, Archelaus, Herod Antipas, a Herod Philip I. Roeddwynt hwy yn dwyn y teitl "tetrarch" yn hytrach na brenin.

Ar 7 Mai, 2007, cyhoeddodd tîm o archaeolegwyr Israelaidd dan arweiniad Ehud Netzer o'r Brifysgol Hebraeg eu bod wedi darganfod bedd Herod.