Mur Israelaidd y Lan Orllewinol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Man reoli ym Mur Diogelwch Israel, ger dref Abu Dis
Map yn dangos lleoliad y Mur (Chwefror, 2005)

Mur sydd wrthi'n cael ei godi gan wladwriaeth Israel (o fewn tiriogaeth y Lan Orllewinol yn bennaf) yw Mur Israelaidd y Lan Orllewinol. Mur o slabiau concrid ydyw yn bennaf.

Mae'r Mur yn ddadleuol iawn. Hona'r awdurdodau Israeliaidd fod angen y mur er mwyn rhwystro terfysgwyr rhag croesi o'r Lan Orllewinol i dir Israel i ymosod. Bu gostyngiad o 90% yn yr ymosodiadau yn erbyn Israel rhwng 2002 a 2005;[1]. Hona wrthwynebwyr y Mur ei fod yn ymdrech anghyfreithlon i wladychu tir Palesteinaidd, dan esgus diogelwch,[2] ei fod yn torri cyfraith rhyngwladol,[3] y fyddai'n gallu rhagfarnu trafodaethau ar statws terfynol y tir,[4] a'i fod yn cwtogi rhyddid Palesteiniaid sy'n byw'n gyfagos, yn rhwystro rhag iddynt teithio o fewn y Lan Orllewinol neu i Israel, gan danseilio eu heconomi (a oedd eisioes yn wan).[5]

[golygu] Ffynonellau

Flag of Israel.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Israel. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Flag of Palestine.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Balesteina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill