Dafydd (brenin)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dafydd a Goliath gan Caravaggio.

Cymeriad yn yr Hen Destament ac ail frenin teyrnas unedig Israel oedd Dafydd (Hebraeg: דוד) (teyrnasodd c. 1010 CC - 970 CC). Yn draddodiadol, cyfeirir ato hefyd fel Dafydd Broffwyd.

Ceir ei hanes yn nifer o lyfrau'r Hen Destament: I Samuel a II Samuel, Llyfr Cyntaf y Cronicl ac Ail Lyfr y Brenhinoedd. Ef oedd y mab ieuengaf mewn teulu mawr. Daeth i sylw trwy ladd y cawr Goliath pan oedd yr Israeliaid yn ymladd yn erbyn y Ffilistiaid. Rhoddwyd Michal, merch Saul, brenin cyntaf Israel, yn wraig iddo. Yn ddiweddarach, aeth Saul yn genfigennus o'i lwyddiant milwrol yn erbyn y Ffilistiaid, a bu raid iddo ffoi.

Daeth yn frenin pan laddwyd Saul a'i fab Jonathan, yn ymladd yn erbyn y Ffilistiaid. Am y saith mlynedd cyntaf, teyrnsai o Hebron, ond yna gwnaeth Jeriwsalem yn brifddinas iddo, wedi iddo gipio'r ddinas oddi wrth y Jebiwsiaid. Bu ganddo nifer o wragedd, a chafodd nifer o feibion ganddynt hwy a chan ordderchwragedd, yn eu plith Solomon, a'i olynodd ar yr orsedd, oedd yn fab i Bathsheba, gweddw Urias.

Yn y traddodiad Cristnogol, roedd Dafydd yn gyndad i Iesu Grist. Cafodd yr enw 'Dafydd Broffwyd' yn yr Oesoedd Canol ac mae Islam yn ei ystyried fel proffwyd yn olyniaeth Moses ac yn un o ragflaenwyr pwysicaf y proffwyd Mohamed. Yn draddodiadol, dywedir mai ef oedd awdur Llyfr y Salmau. Mae wedi bod yn destun poblogaidd i arlunwyr a cherflunwyr ar hyd y canrifoedd; yr enwocaf o'r gweithiau hyn yw Dafydd gan Michelangelo.

Gweler hefyd[golygu]