Yr iaith Gymraeg yn Awstralia

Oddi ar Wicipedia

Carcharorion oedd y Cymry cyntaf a ddaeth i Awstralia, yn y cyfnod pan oedd gwladfeydd cosb yn Ne Cymru Newydd, Queensland, a Tir Van Diemen (Tasmania). O 1788 i 1852, cludwyd rhyw 1500 o ddynion a 300 o ferched o lysoedd Cymru i Awstralia, sy'n cyfri am 1.8% o'r holl garcharorion o Brydain ac Iwerddon. Er yr oedd y mwyafrif yn dod o ardaloedd diwydiannol seisnigedig, yn bennaf Morgannwg a Sir Fynwy, roedd nifer ohonynt yn uniaith Gymraeg.[1]

Yn 1849, William Meirion Evans oedd y dyn cyntaf i bregethu yn Gymraeg yn Awstralia, a hynny i'w gydwladwyr yn y gymuned cloddio copr Burra Burra yn Ne Awstralia. Meirion Evans hefyd oedd sefydlwr a golygydd dau gylchgrawn misol Cymraeg a ddosberthid yn Awstralia a Seland Newydd: Yr Australydd (Ballarat, 1866–71; Melbourne, 1871–2) ac Yr Ymwelydd (Melbourne, 1874–6).[2][3] Yn nhalaith Victoria oedd canolbwynt crefydd a diwylliant Cymraeg yr Awstraliaid Cymreig yn niwedd y 19g. Yn ôl cofnod yn Y Gwladgarwr yn 1865, sy'n dyfynnu papur newydd Awstralaidd:

Ffurfia Ballarat a rhai o’r maesdrefi, megis Sebastopol, fath o Dywysogaeth fechan Gymreig. Y Gymraeg a siaradir, a ysgrifenir, a bregethir, ac a genir yno, a rhoddir cerddoriaeth Gymreig, a chynelir cyfarfodydd llenyddol yno o bryd i bryd, lle y bydd y teulueodd mawr Cymreig, Jones, Davies, Thomas, Evans, Lloyd, a Williams, yn difyru eu hunain mewn modd a fuasai yn llawenhau yr hen feirdd gynt. [...] Y mae yr ymgynulliadau hyn yn brawf o gariad cryf y Cymry at eu gwlad, eu hiaith, a'u llenyddiaeth, yr hyn sydd mor darawiadol yn eu cymeriad.[4]

Cynhaliasai cymanfaoedd canu gan y capeli Cymraeg, a oedd yn denu 800 o bobl yn ystod y 1860au a'r 1870au. Mae'r Australydd yn cofnodi digwyddiadau crefyddol a diwylliannol eraill drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys cyfarfodydd te, y Gobeithlu, a chymdeithasau llenyddol. Cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf yn Awstralia yn Victoria yn 1863, a daeth yn ŵyl flynyddol ar dro drwy drefi mawr y dalaith honno. Yn y 1870au, ymddangosodd eisteddfodau lleol mewn taleithiau eraill. Erbyn dechrau'r 20g roedd yr eisteddfod a'r gwasanaethau Cymraeg ar fin marw yng nghymunedau'r Cymry yn Awstralia, o ganlyniad i seisnigo helaeth ymhlith yr ail genhedlaeth.[5]

Yn ôl cyfrifiad 2011, mae 1430 o bobl yn Awstralia yn siarad Cymraeg yn y cartref. Sefydlwyd cylch chwarae Cymraeg i blant yn Sydney yn 2016, ac ysgol haf Gymraeg yn 2019.[6] Mewn ambell eglwys, er enghraifft yr Eglwys Rydd Gymreig yng Ngorllewin Awstralia, darllenir o'r Beibl a chenir emynau drwy gyfrwng y Gymraeg o hyd.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. James Jupp (gol.), The Australian People: An Encyclopedia of the Nation, Its People and Their Origins (Caergrawnt: Gwas Prifysgol Caergrawnt, 2001), tt. 740–43.
  2. Robert Llewellyn Tyler, "The Welsh Language in a Nineteenth-Century Australian Gold Town Archifwyd 2019-06-03 yn y Peiriant Wayback.", Cylchgrawn Hanes Cymru, Cyfrol 24, Rhif 1 (Mehefin 2008).
  3. (Saesneg) Bill Jones, "Evans, William Meirion (1826–1883)", Australian Dictionary of Biography (Prifysgol Genedlaethol Awstralia, 2005). Adalwyd ar 3 Mehefin 2019.
  4. "Y Cymry yn Awstralia", Y Gwladgarwr (14 Ionawr 1865). Adalwyd ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 4 Mehefin 2019.
  5. (Saesneg) "The Welsh in Australia", BBC. Adalwyd ar 3 Mehefin 2019.
  6. (Saesneg) Gwenfair Griffith, "Sydney parents are putting the 'Welsh' back into New South Wales with a summer language school", ABC News (15 Ionawr 2019). Adalwyd ar 3 Mehefin 2019.
  7. (Saesneg) "Welsh Free Church of Western Australia". Adalwyd ar 3 Mehefin 2019.