Y cyrch ar Gapitol yr Unol Daleithiau (2021)
Enghraifft o'r canlynol | gwrthdystiad, rhuthr, ymgais ar coup d'état, cyfodi, gwrthryfel, livestreamed crime |
---|---|
Dyddiad | 6 Ionawr 2021 |
Lladdwyd | 5 |
Rhan o | Protestiadau etholiad yr Unol Daleithiau 2020–2021 |
Rhagflaenwyd gan | Save America March |
Olynwyd gan | aftermath of the January 6 United States Capitol attack |
Lleoliad | Capitol yr Unol Daleithiau |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Rhanbarth | Washington |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd y cyrch ar Gapitol yr Unol Daleithiau 2021 yn ymgais gan derfysgwyr oedd yn gefnogol i Donald Trump i feddiannu adeiladau'r Capitol yn Washington DC i geisio gwyrdroi canlyniad Etholiad Arlywyddol 2020.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau 2020 ar Ddydd Mawrth 3 Tachwedd 2020 i ethol Arlywydd ac Is-arlywydd Unol Daleithiau America. Trechodd tocyn Democrataidd y cyn is-Arlywydd Joe Biden a seneddwr yr Unol Daleithiau o California Kamala Harris docyn Gweriniaethol, yr arlywydd deilliad Donald Trump a’r is-Arlywydd Mike Pence.
Oherwydd y pandemig coronafirws annogwyd pleidleiswyr i bleidleisio yn gynnar a drwy'r post yn hytrach nac ar y diwrnod.[1]
Cyn, yn ystod, ac ar ôl Diwrnod yr Etholiad, ceisiodd Trump a nifer o Weriniaethwyr wyrdroi’r etholiad a gwyrdroi’r canlyniadau, gan honni twyll etholiadol eang a cheisio dylanwadu ar y broses cyfrif pleidleisiau mewn taleithiau.[2] Er hyn ni chanfu’r Twrnai Cyffredinol William Barr na swyddogion ym mhob un o’r 50 talaith unrhyw dystiolaeth o dwyll nac afreoleidd-dra eang yn yr etholiad.[3][4]
Cyflwynwyd nifer o heriau cyfreithiol i'r canlyniadau gan Trump, gydag achos yn cael ei chyflwyno i'r Llys Goruchaf yr UDA. Methodd pob achos oherwydd diffyg tystiolaeth.[5]
Ardystiwyd canlyniadau'r etholiad ym mhob talaith ac ardal DC erbyn 9 Rhagfyr. Ar 14 Rhagfyr 2020, daeth cadarnhad o'r canlyniad wrth i'r coleg etholiadol bleidleisio, gyda pob talaith yn cyfarfod i gyfri pleidleisau eu etholwyr. Cadarnahwyd fod Joe Biden wedi cael 306 pleidlais a Donald Trump wedi cael 232. Cafodd y canlyniad ei ddanfon ymlaen i'r Gyngres ar y 6 Ionawr 2021.[6]
Y terfysg
[golygu | golygu cod]Ar 6 Ionawr, 2021 ymosododd terfysgwyr ar Capitol yr Unol Daleithiau. Roedd y terfysgwyr yn cefnogi ymdrechion Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, i wyrdroi ei golled o etholiad arlywyddol Tachwedd 2020. Ar ôl torri perimedrau lluosog yr heddlu, bu'r terfysgwyr yn meddiannu, fandaleiddio,[7][8] a difrodi [9] rhannau o'r adeilad am sawl awr.[10] Arweiniodd y terfysg at wacáu a chloi adeilad y Capitol gan darfu ar sesiwn ar y cyd o'r Gyngres a ymgynullodd i gyfrif y pleidleisiau etholiadol ac i ffurfioli buddugoliaeth etholiadol yr Arlywydd etholedig Joe Biden.
Ymgasglodd y protestwyr i gefnogi ffug honiadau Trump fod etholiad 2020 wedi’i “ddwyn” oddi arno. Wedi’i wysio gan Trump,[11] ymgasglodd miloedd o’i gefnogwyr yn Washington, DC, ar 5 a 6/1/ i fynnu bod yr Is-lywydd Mike Pence a’r Gyngres yn gwrthod cydnabod buddugoliaeth gyfreithlon Biden.[12][13][14] Daeth rhai protestwyr yn dreisgar. Bu ymosod ar heddwas a fu farw’n ddiweddarach. Codwyd crocbren ar dir y Capitol a bu ymosod ar newyddiadurwyr. Bu ymgais i gymryd deddfwyr gwystlon ac i greu niwed corfforol i Lefarydd y Tŷ Nancy Pelosi a Pence, am wrthod annilysu’r canlyniad etholiadol a thrwy hynny fuddugoliaeth Biden.[15]
Ymgasglodd protestwyr ar yr Ellipse ar gyfer y "Save America March" ar fore 6 Ionawr;[16][17] Anerchodd Trump, Donald Trump Jr., Rudy Giuliani, a sawl aelod o’r Gyngres y dorf. Anogodd Trump ei gefnogwyr i "ymladd fel y cythraul" i "gipio ein gwlad yn ôl" ac i orymdeithio tuag at y Capitol.[18][19] Galwodd Giuliani am "brawf trwy ornest " [20] a bygythiodd Trump Jr wrthwynebwyr yr arlywydd trwy ddweud "rydyn ni'n dod amdanoch chi", ar ôl galw am "ryfel diarbed" yn yr wythnosau cyn y terfysgoedd.[21][22]
Wrth i'r terfysgwyr fynd i mewn i'r Capitol trwy dorri ffenestri a drysau, gwagiodd lluoedd diogelwch y Capitol siambrau'r Senedd a Thŷ'r Cynrychiolwyr. Gwagiwyd sawl adeilad yng nghanolfan Capitol, a chafodd pob un ohonynt eu cloi lawr.[23] Goresgynnodd y terfysgwyr systemau ddiogelwch y tu fewn i'r adeilad i feddiannu siambr y Senedd a wagiwyd. Tynnodd swyddogion gorfodaeth cyfraith ffederal eu gynnau llaw i atal mynediad i lawr y Tŷ gwag.[24][25][26] Cafodd swyddfa wag Pelosi ei ysbeilio a'i fandaleiddio.[27][28] Cafwyd hyd i ddyfeisiau ffrwydrol byrfyfyr ar dir y Capitol yn ystod y terfysgoedd. Darganfuwyd ffrwydron hefyd ger swyddfeydd y Pwyllgor Cenedlaethol Democrataidd a'r Pwyllgor Cenedlaethol Gweriniaethol, ac mewn cerbyd cyfagos.
Marwolaethau
[golygu | golygu cod]Bu farw pump o bobl yn ystod y digwyddiadau ac anafwyd nifer mwy yn ddifrifol. Bu farw heddwas llu'r Capitol Brian D. Sicknick ar ôl iddo gael ei guro ar ei ben gyda diffoddwr tân.[29][30][31] Lansiodd awdurdodau ffederal ymchwiliad llofruddiaeth i archwilio lladd Sicknick.[32] Cafodd un ddynes a geisiodd fynd i mewn i siambr y Tŷ trwy ddrws dan faricêd ei saethu gan yr heddlu a bu farw’n ddiweddarach.[33][34][35] Dioddefodd tri gwrthdystiwr arall argyfyngau meddygol angheuol yn ystod y digwyddiad.
Ymateb Trump
[golygu | golygu cod]Ymatebodd Trump yn araf i'r meddiannu, gan wrthod y ceisiadau cyntaf am anfon Gwarchodlu Cenedlaethol Dosbarth Columbia i chwalu'r dorf.[36] Rhoddodd fideo ar ei gyfrif Twitter yn canmol y terfysgwyr fel "gwladgarwyr gwych" ond yn dweud wrthynt am "fynd adref mewn heddwch" wrth ailadrodd ei honiadau ffug o dwyll etholiadol.[37][38] Gwasgarwyd y dorf o Capitol yr UD yn ddiweddarach y noson honno. Ailddechreuodd cyfrif y pleidleisiau etholiadol y noson honno ac fe’i cwblhawyd yn oriau mân y bore drannoeth. Wedi'r cyfrif cyhoeddodd Pence mai Biden a’r Is-arlywydd etholedig Kamala Harris oedd yn fuddugol a chadarnhau y byddant yn dechrau yn y swydd ar 20 Ionawr. Dan bwysau gan ei weinyddiaeth ac ymddiswyddiadau niferus, recordiodd Trump araith ar gyfer y teledu lle ymrwymodd i drosglwyddo pŵer yn drefnus.[39][40][41] Tridiau yn ddiweddarach ar 9 Ionawr adroddodd The New York Times fod Trump wedi dweud wrth gynorthwywyr yn Y Tŷ Gwyn ei fod yn difaru’r datganiad hwn ac na fyddai’n ymddiswyddo o’i swydd.[42]
Ymateb eraill
[golygu | golygu cod]Ysgogodd y digwyddiadau gondemniad eang gan arweinwyr gwleidyddol a sefydliadau yn yr Unol Daleithiau ac yn rhyngwladol. Galwodd Arweinydd Mwyafrif y Senedd, Mitch McConnell, y cyrch ar y Capitol yn “wrthryfel a fethodd”. Galwodd Pelosi ac Arweinydd Lleiafrif y Senedd, Chuck Schumer, am i Trump gael ei ddiswyddo, naill ai drwy ddefnyddio 25ain Gwelliant y Cyfansoddiad Americanaidd neu drwy uchelgyhuddo .[43] Ymatebodd Facebook trwy gloi cyfrifon Trump a chael gwared a physt yn ymwneud â’r digwyddiad, ac ymatebodd Twitter i ddechrau trwy gloi ei gyfrif am 12 awr, ac yna ei atal yn barhaol.[44][45]
Disgrifiwyd y terfysgoedd a'r cyrch i feddiannu'r Capitol fel brad,[46] gwrthryfel, anogaeth, terfysgaeth ddomestig,[47] ac ymgais gan Trump i gynnal coup d’état neu hunan-coup.[48]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Joe Biden gam yn nes at hawlio buddugoliaeth yn yr etholiad arlywyddol". Golwg360. 2020-11-05. Cyrchwyd 2021-01-11.
- ↑ "Donald Trump yn dweud bod yr etholiad "ymhell o fod drosodd"". Golwg360. 2020-11-07. Cyrchwyd 2021-01-11.
- ↑ "Disputing Trump, Barr says no widespread election fraud". AP NEWS. 2020-12-01. Cyrchwyd 2021-01-11.
- ↑ Corasaniti, Nick; Epstein, Reid J.; Rutenberg, Jim (2020-11-11). "The Times Called Officials in Every State: No Evidence of Voter Fraud". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2021-01-11.
- ↑ "Goruchaf Lys America'n gwrthod apêl Trump". Golwg360. 2020-12-12. Cyrchwyd 2021-01-11.
- ↑ "Electoral college confirms Joe Biden's presidential victory". BBC News (yn Saesneg). 2020-12-14. Cyrchwyd 2021-01-11.
- ↑ "Trump supporters storm Capitol; DC National Guard activated; woman fatally shot". The Washington Post. 7 Ionawr 2021.
- ↑ Thomas Pallini (7 Ionawr 2021). "Photos show the aftermath of an unprecedented and destructive siege on the US Capitol that left 4 rioters dead". Business Insider.
- ↑ Daly, Matthew; Balsamo, Michael (8 Ionawr 2021). "Deadly siege focuses attention on Capitol Police". Associated Press. Cyrchwyd 9 Ionawr 2021.
- ↑ Landale, James (7 Ionawr 2021). "Capitol siege: Trump's words 'directly led' to violence, Patel says". BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Ionawr 2021. Cyrchwyd 7 Ionawr 2021.
- ↑ Barry, Dan; Frenkel, Sheera (7 Ionawr 2021). "'Be There. Will Be Wild!': Trump All but Circled the Date". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 9 Ionawr 2021.
- ↑ Amenabar, Teddy; Zauzmer, Julie; Davies, Emily; Brice-Saddler, Michael; Ruane, Michael E.; et al. (6 Ionawr 2021). "Live updates: Hundreds storm Capitol barricades; two nearby buildings briefly evacuated; Trump falsely tells thousands he won". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Ionawr 2021. Cyrchwyd 6 Ionawr 2021.
- ↑ Peñaloza, Marisa (6 Ionawr 2021). "Trump Supporters Clash With Capitol Police At Protest". NPR. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Ionawr 2021. Cyrchwyd 6 Ionawr 2021.
- ↑ Rodd, Scott; Hooks, Kris. "Trump Supporters, Proud Boys Converge On California's Capitol To Protest Electoral College Count". CapRadio. KXJZ. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Ionawr 2021. Cyrchwyd 6 Ionawr 2021.
- ↑ "Must-See New Video Shows Capitol Riot Was Way Worse Than We Thought | All In | MSNBC - YouTube". www.youtube.com. Cyrchwyd January 10, 2021.
- ↑ Faulders, Katherine; Santucci, John (January 5, 2021). "As he seeks to prevent certification of election, Trump plans to attend DC rally". ABC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ionawr 2021. Cyrchwyd 7 Ionawr 2021.
- ↑ Holmes, Anisa (6 Ionawr 2021). "Trump Supporters Gather, President Incites Chaos in DC". WRC-TV. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ionawr 2021. Cyrchwyd 7 Ionawr 2021.
- ↑ McCarthy, Tom; Ho, Vivian; Greve, Joan E. (7 Ionawr 2021). "Schumer calls pro-Trump mob 'domestic terrorists' as Senate resumes election certification - live". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Ionawr 2021. Cyrchwyd 6 Ionawr 2021.
- ↑ Andersen, Travis (6 Ionawr 2021). "Before mob stormed US Capitol, Trump told them to 'fight like hell' -". The Boston Globe. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ionawr 2021. Cyrchwyd 7 Ionawr 2021.
- ↑ Blake, Aaron (7 Ionawr 2021). "'Let's have trial by combat': How Trump and allies egged on the violent scenes Wednesday". The Washington Post. ISSN 0190-8286. Cyrchwyd 8 Ionawr 2021.
- ↑ "Trump Told Crowd 'You Will Never Take Back Our Country With Weakness'". The New York Times. Cyrchwyd 9 Ionawr 2021.
- ↑ "'Reckless' and 'stupid': Trump Jr calls for 'total war' over election results". The Independent. Cyrchwyd January 10, 2021.
- ↑ "Watch Live: Protesters Swarm US Capitol Steps as Congress Counts Electoral Votes". NBC4 Washington (yn Saesneg). 6 Ionawr 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Ionawr 2021. Cyrchwyd 6 Ionawr 2021.
- ↑ Macias, Amanda; Mangan, Dan (6 Ionawr 2021). "U.S. Capitol secured hours after pro-Trump rioters invade Congress". CNBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ionawr 2021. Cyrchwyd 7 Ionawr 2021.
- ↑ McEvoy, Jemima (6 Ionawr 2021). "DC Protests Live Coverage: Entire Capitol Now On Lockdown As Protesters Enter The Building". Forbes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Ionawr 2021. Cyrchwyd 6 Ionawr 2021.
- ↑ Lang, Brent; Littleton, Cynthia (6 Ionawr 2021). "U.S. Capitol on Lockdown, Pro-Trump Protestors Breach Police Lines". Variety. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Ionawr 2021. Cyrchwyd 6 Ionawr 2021.
- ↑ Conradis, Brandon (6 Ionawr 2021). "Pelosi's office vandalized after pro-Trump rioters storm Capitol". TheHill (yn Saesneg). Cyrchwyd January 10, 2021.
- ↑ Swaine, Jon. "Man who posed at Pelosi desk said in Facebook post that he is prepared for violent death". The Washington Post (yn Saesneg). ISSN 0190-8286. Cyrchwyd 9 Ionawr 2021.
- ↑ Benner, Katie; Levenson, Michael (8 Ionawr 2021). "A Capitol Police officer who was seriously injured Wednesday remains on life support". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 8 Ionawr 2021.
- ↑ Dartunorro, Clark; Thorp V, Frank (8 Ionawr 2021). "Capitol Police officer dies from injuries after clashing with pro-Trump mob". NBC News. Cyrchwyd 8 Ionawr 2021.
- ↑ "Capitol Police say cop, reportedly hit with fire extinguisher during Hill mob, dies of his injuries". Chicago Tribune. 8 Ionawr 2021. Cyrchwyd 8 Ionawr 2021.
- ↑ Perez, Evan; LeBlanc, Paul (8 Ionawr 2021). "Federal murder investigation to be opened in Capitol Police officer's death". The Mercury News. Cyrchwyd 8 Ionawr 2021.
- ↑ "Trump supporters storm U.S. Capitol, with one woman killed and tear gas fired". The Washington Post. 6 Ionawr 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Ionawr 2021. Cyrchwyd 6 Ionawr 2021.
- ↑ Matthews, Dylan (6 Ionawr 2021). "Watch a tearful Trump supporter ask C-SPAN if her president lied to her". Vox. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ionawr 2021. Cyrchwyd 7 Ionawr 2021.
At least one of the group storming the Capitol, Trump supporter Ashli Babbitt, was killed by an unknown shooter after she had made it inside the Capitol building.
- ↑ "Man says San Diego woman killed in Capitol siege was his wife". KXAN Austin. 7 Ionawr 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ionawr 2021. Cyrchwyd 7 Ionawr 2021.
- ↑ Walsh, Joe. "Reports: Trump Resisted Sending National Guard To Quell Violent Mob At U.S. Capitol". Forbes.
- ↑ Zilbermints, Regina (6 Ionawr 2021). "Trump tells rioters 'go home,' repeats claims that election 'fraudulent'". The Hill. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Ionawr 2021. Cyrchwyd 6 Ionawr 2021.
- ↑ Durkee, Alison (6 Ionawr 2021). "Trump Justifies Supporters Storming Capitol: 'These Are The Things And Events That Happen'". Forbes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ionawr 2021. Cyrchwyd 7 Ionawr 2021.
- ↑ Liptak, Kevin; Stracqualursi, Veronica; Malloy, Allie (7 Ionawr 2021). "Isolated Trump reluctantly pledges 'orderly' transition after inciting mob". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ionawr 2021.
- ↑ Fordham, Evie (7 Ionawr 2021). "Trump promises 'orderly transition' on Jan. 20 after Electoral College results certified". Fox News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Ionawr 2021. Cyrchwyd 7 Ionawr 2021.
- ↑ Elbaum, Rachel (7 Ionawr 2021). "Trump commits to 'orderly transition' in statement after mob storms Capitol". NBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Ionawr 2021. Cyrchwyd 7 Ionawr 2021.
- ↑ Broadwater, Luke; Fandos, Nicholas; Haberman, Maggie (9 Ionawr 2021). "Democrats Ready Impeachment Charge Against Trump for Inciting Capitol Mob". The New York Times. Cyrchwyd 9 Ionawr 2021.
- ↑ Pramuk, Jacob (7 Ionawr 2021). "Pelosi and Schumer call for Trump's immediate removal from office for 'insurrection'" (yn Saesneg). CNBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Ionawr 2021. Cyrchwyd 7 Ionawr 2021.
- ↑ Karni, Annie; Haberman, Maggie (6 Ionawr 2021). "Trump openly condones supporters who violently stormed the Capitol, prompting Twitter to lock his account". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ionawr 2021. Cyrchwyd 7 Ionawr 2021.
- ↑ Business, Brian Fung, CNN. "Twitter bans President Trump permanently". CNN. Cyrchwyd 9 Ionawr 2021.
- ↑ Larson, Carlton (7 Ionawr 2021). "The framers would have seen the mob at the Capitol as traitors". Washington Post. Cyrchwyd 9 Ionawr 2021.
- ↑ "Conservative media members erupt with anger over protesters storming Capitol: 'This is domestic terrorism'". Fox News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Ionawr 2021. Cyrchwyd 7 Ionawr 2021.
- ↑ Mae ffynonellau sy'n cyfeirio at y digwyddiad fel coup yn cynnwys: Coleman, Justine (6 Ionawr 2021). "GOP lawmaker on violence at Capitol: 'This is a coup attempt'". The Hill (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Ionawr 2021. Cyrchwyd 6 Ionawr 2021.; Call, Charles T. (8 Ionawr 2021). "No, it's not a coup — It's a failed 'self-coup' that will undermine US leadership and democracy worldwide". Brookings Institution (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Ionawr 2021.
Trump’s measures to overturn the elections since November 3 constitute a 'coup,' as they involve illegal usurpation of state power, even when it may not involve the use of force. Yet it is a 'self'-coup because it is perpetrated by the head of government rather than military officers or others against that chief executive.