Neidio i'r cynnwys

Nancy Pelosi

Oddi ar Wicipedia
Nancy Pelosi
GanwydNancy Patricia D'Alesandro Edit this on Wikidata
26 Mawrth 1940 Edit this on Wikidata
Baltimore Edit this on Wikidata
Man preswylBaltimore, Efrog Newydd, San Francisco, Pacific Heights Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
  • Coleg Trindod Washington
  • Institute of Notre Dame Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddcadeirydd plaid wleidyddol, cadeirydd, Speaker of the United States House of Representatives, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Speaker of the United States House of Representatives, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadThomas D'Alesandro, Jr. Edit this on Wikidata
MamAnnunciata M. "Nancy" D'Alesandro Edit this on Wikidata
PriodPaul Pelosi Edit this on Wikidata
PlantAlexandra Pelosi, Paul Pelosi, Jr., Christine Pelosi, Nancy Corinne Prowda Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Gwobr Proffil Dewrder, honorary doctor of Brandeis University, Dr. Nathan Davis Award for United States Representatives, Grand Cross of the Order of the Golden Heart, Urdd y Dywysoges Olga, 3ydd Dosbarth, Urdd y Cymylau Ffafriol, Order of Prince Yaroslav the Wise, 2nd class, Gwobr Time 100, Gwobr Time 100, Gwobr Time 100, Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, VH1 Trailblazer Honors, Grand Cordon of the Order of the Rising Sun, Q126416245 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://pelosi.house.gov Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd o'r Unol Daleithiau yw Nancy Patricia D'Alesandro Pelosi (ganwyd 26 Mawrth 1940). Gwasanethodd fel 52ain llefarydd Tŷ'r Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau rhwng 2007 a 2011 ac eto rhwng 2019 a 2023. Mae hi'n cynrychioli 12fed ardal California, sy'n rhan o ddinas San Francisco. Cafodd ei hethol gyntaf i'r Gyngres ym 1987.

Mae Pelosi yn aelod o'r Blaid Ddemocrataidd. Hi oedd y fenyw gyntaf i arwain plaid fawr yng Nghyngres yr Unol Daleithiau. Hi hefyd oedd y fenyw gyntaf a'r Eidalwr-Americanaidd cyntaf i fod yn Llefarydd y Tŷ. Ar 3 Ionawr 2019, etholwyd Pelosi yn siaradwr am yr eildro.[1] Byddai hyn yn golygu mai hi oedd y cyn-siaradwr cyntaf i ddod yn siaradwr eto ers Sam Rayburn ym 1955.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Pelosi yng Nghanolfan Feddygol Prifysgol St Joseph yn Baltimore, Maryland [2], roedd ei thad, Thomas D'Alesandro yn Faer Baltimore, Maryland. Gwasanaethodd bum tymor yn y Gyngres. Roedd ei brawd, Thomas D'Alesandro III, hefyd yn Faer Baltimore. Bu farw ym mis Hydref 2019, yn 90 oed.

Graddiodd Pelosi o Goleg y Drindod yn Washington, DC ym 1962. Mae ganddi hi a'i gŵr, Paul Pelosi, bump o blant: Nancy Corinne, Christine, Jacqueline, Paul ac Alexandra. Mae ganddyn nhw bump o wyrion hefyd.

Gweithgaredd gwleidyddol

[golygu | golygu cod]

Roedd Pelosi yn hynod o bwysig wrth basio 'Obamacare' yn 2010 sef newid fwyaf mewn gwasanaeth iechyd ym America. Yn sylwadau Obama cyn arwyddo'r mesur yn gyfraith, fe gredydodd yn benodol Pelosi fel "un o'r siaradwyr gorau y mae Tŷ'r Cynrychiolwyr erioed wedi'i gael".[3]

Ar 24 Fedi 2019, cyhoeddodd Pelosi ddechrau ar wrandawiadau i uchelgyhuddo yr Arlywydd Donald Trump.[4] Ym mis Rhagfyr 2019, gwnaeth y Tŷ uchelgyhuddo Trump yn ffurfiol, er y cafodd ei ganfod yn ddieuog drwy bleidlais yn y Senedd lle'r oedd mwyafrif o Werinaethwyr.[5]

Ymosod ar Paul Pelosi

[golygu | golygu cod]

Yn ystod oriau mân 28 Hydref 2022, fe dorrodd ymosodwr i mewn i gartref Paul Pelosi, gŵr Nancy Pelosi, yn San Fgrancisco gan weiddi "Where's Nancy?". Ymosododd ar Pelosi gyda morthwyl.[6] Yr ymosodwr oedd David DePape, dinesydd 42 oed o Ganada. Mae'n gefnogwr i ddamcaniaethau cynllwynio asgell dde.[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. DBonis, Mike; Sullivan, Sean (January 3, 2019). "Pelosi re-elected as House speaker as 116th Congress opens". The Mercury News. Cyrchwyd January 4, 2019.
  2. Page, Susan. "Nancy Pelosi's birth 80 years ago made headlines, too, as perils gathered for the nation". The Commercial Appeal (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-07-26.
  3. "Health Care Overhaul Boosts Pelosi's Clout". NPR.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-29.
  4. "Donald Trump yn wynebu cael ei uchelgyhuddo". Golwg360. 2019-12-18. Cyrchwyd 2020-10-29.
  5. "Cefnogwyr Donald Trump yn achub ei groen". Golwg360. 2020-02-06. Cyrchwyd 2020-10-29.
  6. Scott, Eugene; Caldwell, Leigh Ann (28 Hydref 2022). "Husband of House Speaker Pelosi attacked during break-in of California home, office says". The Washington Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 Hydref 2022.
  7. "Canadian charged in Pelosi attack told police he had further targets, according to court filing" (yn Saesneg). CBC News. 1 Tachwedd 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Tachwedd 2022. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2022 – drwy Associated Press.