Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2020
![]() | |||||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||||
538 aelod o'r Coleg Etholiadol 270 pleidlais i ennill | |||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Nifer a bleidleisiodd | 66.2% (amcangyfrif) | ||||||||||||||||||||||||||||
| |||||||||||||||||||||||||||||
![]() Y map etholiadol ar gyfer etholiad 2020, yn seiliedig ar boblogaethau Cyfrifiad 2010. | |||||||||||||||||||||||||||||
|
Cynhaliwyd Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau 2020 ar Ddydd Mawrth 3 Tachwedd 2020 i ethol Arlywydd ac Is-arlywydd Unol Daleithiau America. Hwn oedd y 59fed etholiad arlywyddol pedairblyneddol. Roedd pleidleiswyr yn dewis etholwyr arlywyddol a fydd yn eu tro yn pleidleisio ar 14 Rhagfyr 2020, fe wnaethant ethol arlywydd ac is-arlywydd newydd, Joe Biden a Kamala Harris, gan drechu'r deiliad Donald Trump a Mike Pence. Fe wnaeth enillwyr etholiad 2020 cael eu urddo ar Ionawr 20, 2021.[1]
Lansiodd Donald Trump, y 45fed ac Arlywydd presennol, ymgyrch ail-ddewis ar gyfer y Gweriniaethwyr; fe wnaeth sawl sefydliad Plaid Weriniaethol y wladwriaeth canslo eu etholiadau mewn cefnogaeth i'w ymgeisyddiaeth. Daeth yn enwebai tybiedig ym mis Mawrth 2020.[2]
Lansiodd 27 o ymgeiswyr ymgyrchoedd ar gyfer yr enwebiad Democrataidd, a ddaeth yn faes mwyaf yr ymgeiswyr i unrhyw blaid wleidyddol yng ngwleidyddiaeth fodern America. Ym mis Ebrill 2020, daeth y cyn Is-lywydd Joe Biden yn enwebai tybiedig ar ôl curo’r Seneddwr Bernie Sanders.[3]
Dewiswyd Biden Kamala Harris ar yr 11 Awst 2020 i fod yn ymgeisydd ar gyfer fod yn Is-arlywydd America. Pan gafwyd ei hethol hi oedd yr Is-Arlywydd benywaidd cyntaf yn ogystal â'r cyntaf o dras Affricanaidd a De Asia Americanaidd.[4]
Biden a Trump yn y drefn honno yw'r enwebion arlywyddol hynaf ac ail-hynaf yn hanes yr Unol Daleithiau; ac os oedd y naill neu'r llall yn cael eu hethol a'u urddo, nhw hefyd oedd yr arlywydd hynaf sy'n gwasanaethu gan dybio eu bod yn gwasanaethu eu tymor llawn.[5]
Materion
[golygu | golygu cod]Prif faterion yr etholiad oedd effaith y pandemig COVID-19 parhaus, a laddodd dros 220,000 o Americanwyr; protestiadau mewn ymateb i ladd George Floyd ac Americanwyr duon eraill; marwolaeth barnwr y Llys Goruchaf Ruth Bader Ginsburg ac enwebu Amy Coney Barrett, a’r Ddeddf Gofal Fforddiadwy, gyda Biden eisiau ei amddiffyn a’i ehangu a Trump yn pwyso am ddod â hi i ben.
Enwebiadau
[golygu | golygu cod]Plaid Ddemocrataidd
[golygu | golygu cod]Dewisodd y Blaid Ddemocrataidd ei henwebai yn ysgolion cynradd arlywyddol y Blaid Ddemocrataidd 2020. Daeth Joe Biden yn enwebai tybiedig y Blaid Ddemocrataidd ar 5 Mehefin 2020, pan sicrhaodd ddigon o gynrychiolwyr i sicrhau ei enwebiad yn y confensiwn cenedlaethol. Dewisodd Biden Kamala Harris fel ei enwebai is-lywydd, ac enwebwyd y tocyn yn ffurfiol yn y confensiwn ar 18 Awst.
![]() Tocyn Plaid Ddemocrataidd 2020 | |
---|---|
Joe Biden | Kamala Harris |
dros Arlywydd | dros Is-Arlywydd |
![]() |
![]() |
47ain Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau (2009–2017) |
Seneddwr yr Unol Daleithiau dros California (2017–2021) |
![]() |
Plaid Weriniaethol
[golygu | golygu cod]Ceisiodd yr Arlywydd yna-periglor Donald Trump a'r Is-Arlywydd Mike Pence gael eu hail-ethol. Fe wnaethant sicrhau enwebiad y Blaid Weriniaethol ar 24 Awst 2020.
![]() Tocyn Plaid Weriniaethol 2020 | |
---|---|
Donald Trump | Mike Pence |
dros Arlywydd | dros Is-Arlywydd |
![]() |
![]() |
45ain Arlywydd yr Unol Daleithiau (2017–2021) |
48ain Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau (2017–2021) |
![]() |
Cyfri'r pleidleisiau
[golygu | golygu cod]Oherwydd y pandemig coronafirws annogwyd pleidleiswyr Democrataidd i bleidleisio yn gynnar a drwy'r post yn hytrach nac ar y diwrnod. Mewn rhai taleithiau nid oedd yn bosib cyfrif y papurau pleidleisio hynny cyn i ddiwrnod yr etholiad orffen. Roedd miliynau o bleidleisiau i'w cyfri a cymerodd hyn drwy'r wythnos i'w cyfri a gwirio. Cyfrifiwyd pleidleisiau a fwriwyd ar y diwrnod i ddechrau, a roedd mwyafrif y rheiny ar gyfer yr Arlywydd Trump. Felly roedd Trump i weld yn arwain y ras mewn sawl talaith nes i'r pleidleisiau post gael eu cyfri.[6]
Bu llawer o oedi wrth gyfrif y pleidleisiau, am nifer o resymau, gan gynnwys y nifer uchel a bleidleisiodd, cyfran uchel o bleidleisiau post a chanlyniadau agos iawn mewn rhai ardaloedd. Wrth i'r pleidleisiau post gael eu cyfri a rhifau Biden gynyddu, gwnaeth Trump sawl honiad o 'dwyll etholiadol' er na chyflwynodd unrhyw dystiolaeth o hyn. Bygythiodd gymeryd camau cyfreithiol mewn sawl talaith lle nad oedd yn ennill y ras.[7]

Erbyn prynhawn ddydd Sadwrn, 7 Tachwedd 2020 daeth cyhoeddiad am bleidleisiau a gyfrwyd yn Philadelphia, Pennsylvania. Cyfrifwyd felly fod Biden a Harris wedi ennill y dalaith gyda mwyafrif o dros 0.5%. Datganodd y cyfryngau a dadansoddwyr ystadegol fod Biden wedi ennill digon o bleidleisiau ac felly wedi sicrhau dros 270 pleidlais yn y coleg etholiadol.[8] Er hynny ni ildiodd Trump, a parhaodd i ddadlau ei fod wedi 'ennill' yr etholiad[9] er bod gwleidyddion ar draws y byd wedi llongyfarch Biden.[10] Dywedodd Biden fod ennill yn anrhydedd ac y byddai'n ceisio uno'r wlad.[8]
Cyflwynwyd nifer o heriau cyfreithiol i'r canlyniadau gan Trump, gydag achos yn cael ei chyflwyno i'r Llys Goruchaf yr UDA. Methodd pob achos oherwydd diffyg tystiolaeth gan sicrhau llwybr clir i Biden i'r Arlywyddiaeth.[11]
Ardystio pleidleisiau'r Coleg Etholiadol
[golygu | golygu cod]
Ardystiwyd canlyniadau'r etholiad ym mhob talaith ac ardal DC erbyn 9 Rhagfyr. Ar 14 Rhagfyr 2020, daeth cadarnhad o'r canlyniad wrth i'r coleg etholiadol bleidleisio, gyda pob talaith yn cyfarfod i gyfri pleidleisau eu etholwyr. Cadarnahwyd fod Joe Biden wedi cael 306 pleidlais a Donald Trump wedi cael 232. Bydd y canlyniad yn cael ei ddanfon ymlaen i'r Gyngres ar 6 Ionawr 2021.[12] Mae Biden a Harris wedi’u hamserlennu i'w gael eu hurddo ar 20 Ionawr, 2021.[13]
Mewn cyfarfod o Gyngres yr Unol Daleithiau ar 6 Ionawr 2021, y bwriad oedd casglu a chyfri'r pleidleisiau gan etholwyr bob talaith, er fod disgwyl i sawl aelod o'r Gweriniaethwyr i wrthod pleidleisiau rhai taleithiau. Yn gynharach yn y diwrnod, roedd yr Arlywydd Trump wedi annerch torf o'i gefnogwyr o flaen y Tŷ Gwyn, a'i annog i orymdeithio i adeilad Capitol Hill i brotestio mai fod yr Etholiad yn 'dwyll' ac mai ef oedd yn fuddugol. Tra fod y Gyngres yn cyfarfod, llwyddodd nifer o gefnogwyr Trump i dorri fewn a meddiannu adeilad y Capitol, gan falurio swyddfeydd y Seneddwyr. Symudwyd y gwleidyddion a'i staff i lefydd diogel. Bu farw un fenyw yn y gwrthdaro gyda'r heddlu a phedwar person arall o “argyfyngau meddygol”, gan gynnwys swyddog heddlu.[14][15]
Yn ddiweddarach, wedi i'r heddlu a swyddogion arfog gael y sefyllfa dan reolaeth, dychwelodd y gwleidyddion i'r Gyngres, gan gyfri gweddill y pleidleisiau a chymeradwyo etholiad Joe Biden fel yr Arlywydd nesaf.[16]
Ymgyrch etholiadol 2020 | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Urddo Biden ac Harris
[golygu | golygu cod]
Digwyddodd urddo Joe Biden fel 46ain arlywydd yr Unol Daleithiau ar 20 Ionawr 2021. Dyma ddechrau tymor pedair blynedd Joe Biden fel arlywydd a Kamala Harris yn is-Arlywydd.[17]
Digwyddodd seremoni gyhoeddus ar Ffrynt Orllewinol Adeilad y Capitol yr Unol Daleithiau yn Washington, D.C. Dyma'r 59fed urddo arlywyddol.
Cymerodd Biden y llw fel arlywydd y diwrnod hwnnw a chymerodd Harris y llw fel is-Arlywydd.
Rhoddodd y Prif Farnwr John Roberts lw Biden a rhoddodd yr ynad Sonia Sotomayor lw i Harris.
Ni wnaeth yr Arlywydd blaenorol, Donald Trump, mynychu gan dorri draddodiad 152 mlwydd oed. Ond roedd yr Is-Arlywydd blaenorol Mike Pence a'i wraig Karen Pence yn bresennol.[18]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y cyrch ar Gapitol yr Unol Daleithiau 2021 - ymgais gan derfysgwyr oedd yn gefnogol i Donald Trump i feddiannu adeiladau'r Capitol yn Washington DC i geisio gwyrdroi canlyniad Etholiad Arlywyddol 2020, wrth i'r Gyngres ardystio pleidleisiau'r Coleg Etholiadol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "All you need to know about US election". BBC News (yn Saesneg). 2020-05-19. Cyrchwyd 2020-07-29.
- ↑ "Etholiad yn dod ar yr amser anghywir i Donald Trump?". Golwg360. 2020-07-26. Cyrchwyd 2020-07-29.
- ↑ "Joe Biden yn ennill cefnogaeth yn etholiad De Carolina". Golwg360. 2020-03-01. Cyrchwyd 2020-07-29.
- ↑ "Y ddynes groenddu Kamala Harris fyddai Dirprwy Arlywydd Joe Biden". Golwg360. 2020-08-12. Cyrchwyd 2021-06-11.
- ↑ Alter, Charlotte (2020-05-13). "How old should a president be?". Vox (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-07-29.
- ↑ "Joe Biden gam yn nes at hawlio buddugoliaeth yn yr etholiad arlywyddol". Golwg360. 2020-11-05. Cyrchwyd 2020-11-07.
- ↑ Donald Trump yn dweud bod yr etholiad “ymhell o fod drosodd” , Golwg360, 7 Tachwedd 2020.
- ↑ 8.0 8.1 "Joe Biden yw enillydd ras arlywyddol yr Unol Daleithiau". Golwg360. 2020-11-07. Cyrchwyd 2020-11-07.
- ↑ "Donald Trump yn dweud bod yr etholiad "ymhell o fod drosodd"". Golwg360. 2020-11-07. Cyrchwyd 2020-11-07.
- ↑ "US election results: World leaders react to news that Joe Biden will be the next president". Sky News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-07.
- ↑ "Goruchaf Lys America'n gwrthod apêl Trump". Golwg360. 2020-12-12. Cyrchwyd 2021-01-05.
- ↑ Electoral college confirms Joe Biden's presidential victory (en) , BBC News, 14 Rhagfyr 2020.
- ↑ "Canlyniad etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau'n dal i hollti barn y Gweriniaethwyr". Golwg360. 2021-01-02. Cyrchwyd 2021-01-05.
- ↑ Washington: Pedwar wedi marw mewn protestiadau treisgar gan gefnogwyr Trump , Golwg360, 7 Ionawr 2021.
- ↑ "Swyddog yr heddlu gafodd ei anafu yn ystod terfysgoedd Washington wedi marw". Golwg360. 2021-01-08. Cyrchwyd 2021-01-09.
- ↑ Donald Trump yn addo “trosglwyddiad trefnus” o’r awenau i’r darpar Arlywydd Joe Biden , Golwg360, 7 Ionawr 2021.
- ↑ "Joe Biden wedi ei urddo'n Arlywydd yr Unol Daleithiau". Golwg360. 2021-01-20. Cyrchwyd 2021-06-11.
- ↑ Fortin, Jacey (2021-01-19). "Trump Is Not the First President to Snub an Inauguration". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2021-06-11.