Kamala Harris

Oddi ar Wicipedia
Kamala Harris
GanwydKamala Devi Harris Edit this on Wikidata
20 Hydref 1964 Edit this on Wikidata
Oakland Medical Center, Oakland, Califfornia Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles, San Francisco, Washington, Montréal Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
AddysgJuris Doctor, Baglor yn y Celfyddydau Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg y Gyfraith Hastings, Prifysgol California
  • Prifysgol Howard
  • Westmount High School
  • F.A.C.E. School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr, erlynydd, cyfreithegwr Edit this on Wikidata
Swydddeputy district attorney, San Francisco District Attorney, Attorney General of California, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau, vice-president-elect Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • California Department of Justice
  • San Francisco District Attorney's Office
  • San Francisco District Attorney's Office Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Truths We Hold: An American Journey Edit this on Wikidata
Taldra1.57 metr, 64.25 modfedd Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadDonald J. Harris Edit this on Wikidata
MamShyamala Gopalan Edit this on Wikidata
PriodDoug Emhoff Edit this on Wikidata
PerthnasauTony West, Meena Harris, Cole Emhoff, Ella Emhoff, Sharada Balachandran Orihuela Edit this on Wikidata
Llinachteulu Kamala Harris Edit this on Wikidata
Gwobr/auThurgood Marshall Award, honorary doctor of the University of Southern California, honorary doctor of the Howard University, Gwobr Time 100 Edit this on Wikidata
llofnod

Twrnai, gwleidydd Americanaidd a 49ain Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau yw Kamala Devi Harris (ganed 20 Hydref 1964). Hi yw'r Is-Arlywydd benywaidd cyntaf yn ogystal a'r cyntaf o dras Affricanaidd a De Asia Americanaidd.

Ganed Harris yn Oakland, Califfornia, a graddiodd o Brifysgol Howard a Phrifysgol California, Coleg y Gyfraith Hastings.

Rhwng 2017 a 2021 roedd hi'n cynrychioli California fel is-seneddwr yr Unol Daleithiau. Yn aelod o'r Blaid Ddemocrataidd, bu gynt yn 27ain Twrnai Dosbarth San Francisco rhwng 2004 a 2011 a 32ain Twrnai Cyffredinol California rhwng 2011 a 2017. Cafodd ei ethol i'r Senedd yn etholiadau 2016 gan ddod yn yr ail fenyw Americanaidd Affricanaidd a'r gyntaf o gefndir Dde Asia Americanaidd i wasanaethu yn Senedd yr Unol Daleithiau.[1]

Ymgeisyddiaeth arlywyddol 2020[golygu | golygu cod]

Ar ôl misoedd o ddamcaniaethu, fe gyhoeddodd Harris ei hymgyrch am arlywydd yr Unol Daleithiau yn yr etholiad arlywyddol 2020 ar 21 Ionawr 2019.[2] Yn ystod y 24 awr gyntaf ar ôl ei chyhoeddiad, roedd Harris wedi cyrraedd record Bernie Sanders yn 2016 am godi'r swm mwyaf o arian mewn diwrnod.[3] Fodd bynnag, torrodd Sanders y record hon yn ddiweddarach ar ôl cyhoeddi ei ymgyrch arlywyddol 2020 ei hun.[4] Collodd Harris yr enwebiad hynny gyda Joe Biden yn dod i'r brig. Cafodd Harries ei nodi fel un o'r 'Top tier' gall Biden dewis ar gyfer ei bartner arlywyddol neu ymgeisydd Is-arlywydd.[5][6]

Ar 11 Awst 2020 ddewisodd Biden Harris fel ymgeisydd Is Arlywydd ar gyfer yr Democratiaid yn etholiad 2020.[7] Ar 7 Tachwedd 2020, daeth cyhoeddiad am bleidleisiau a gyfrwyd yn Philadelphia, Pennsylvania. Cyfrifwyd felly fod Biden a Harris wedi ennill y dalaith gyda mwyafrif o dros 0.5% a felly sicrhau dros 270 pleidlais yn y coleg etholiadol.[8]

Harries gyda'r Cawcws cynghresol Menywod Du

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "My Story | U.S. Senator Kamala Harris of California". www.harris.senate.gov (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-14. Cyrchwyd 2020-08-03.
  2. CNN, Eric Bradner. "Kamala Harris signs book deal amid 2020 speculation". Cyrchwyd 12 Hydref 2018.
  3. "Kamala Harris raises $1.5 million in first 24 hours; ties record set by Sanders in 2016". Cyrchwyd 23 Ionawr 2019.[dolen marw]
  4. "Bernie Sanders raises 6 million in first 24 hours of campaign". Cyrchwyd 25 Chwefror 2019.
  5. Perks, Ashley (2020-07-29). "VP hopefuls jockey for position as Biden's final decision nears". TheHill (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-08-03.
  6. Laura Pullman, Philip Sherwell. "Veep hopeful Kamala Harris has history to rival Obama's" (yn Saesneg). ISSN 0140-0460. Cyrchwyd 2020-08-03.
  7. "Y ddynes groenddu Kamala Harris fyddai Dirprwy Arlywydd Joe Biden". Golwg360. 2020-08-12. Cyrchwyd 2020-08-12.
  8. Joe Biden yw enillydd ras arlywyddol yr Unol Daleithiau , Golwg360, 7 Tachwedd 2020.