Powyseg
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Y Bowyseg)
Cymraeg |
---|
WiciBrosiect Cymru |
Y Bowyseg yw'r dafodiaith Gymraeg a siaredir yng ngogledd-ddwyrain Cymru a rhan sylweddol o'r Canolbarth. Mae'n cymryd ei henw o'r hen deyrnas Powys ac mae ei thiriogaeth yn cyfateb yn fras i diriogaeth y deyrnas honno ar ei hanterth. Ymddengys mai cymharol ddiweddar yw'r gair ei hun (mae'r enghreifftiau cynharaf i'w cael yng ngwaith ieithyddwyr o'r 18g) ond mae'r Bowyseg yn un o brif dafodieithoedd y Gymraeg a chanddi hanes hir. Gyda'r Wyndodeg mae hi'n rhan o deulu tafodieithol Cymraeg y gogledd.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Alan R. Thomas, The Linguistic Geography of Wales (Caerdydd, 1973)